Skip to main content
Dysgwyr AU y Coleg yn graddio!

Dysgwyr AU y Coleg yn graddio!

Aeth dros 100 o fyfyrwyr Addysg Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe i ddigwyddiad graddio arbennig yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe.

Roedd y myfyrwyr yn dathlu llwyddiant mewn pynciau gan gynnwys cyfrifeg, addysgu, peirianneg, gofal plant, gwallt a harddwch, chwaraeon, tai a rheolaeth.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi pwyslais mawr ar addysg ac yn arbennig addysg bellach ac addysg uwch o ran darparu'r sgiliau y mae eu hangen i gynnal economi gryf,"  dywedodd y Pennaeth Mark Jones.  "Rwy'n falch iawn bod Coleg Gŵyr Abertawe, trwy gydweithio â'n partneriaid AU ac eraill, yn gallu cefnogi'r agenda hwn ac yn parhau i ddatblygu ein darpariaeth AU trwy bartneriaethau cadarn."

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn addysgu amrywiaeth o gyrsiau AU mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Swydd Gaerloyw.

Yn gynharach eleni, roedd y Coleg wedi agor Canolfan Addysg Uwch ar Gampws Tycoch. Yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, llyfrgell ac ystafell gyffredin, mae’r datblygiad newydd sbon ar gyfer myfyrwyr sy’n dilyn cyrsiau lefel uwch yn unig - megis Graddau Sylfaen a chymwysterau HND - yn y Coleg.

Darparwyd adloniant ar y noson gan fyfyrwyr o adrannau’r celfyddydau perfformio a cherddoriaeth y Coleg ac roedd myfyrwyr Gradd Sylfaen Rheoli Digwyddiadau wrth law i gynorthwyo’r gwesteion.

Lluniau: Peter Price Media