Skip to main content

Dechrau Arni mewn Electroneg

Rhan-amser
Lefel 2
Tycoch
10 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Nod y cwrs yw rhoi mynediad i chi i’r Diwydiant Electroneg. Bydd y cwrs yn datblygu’r sgiliau canlynol:

  • Sodro
  • Meddalwedd electroneg Autodesk Fusion  
  • Adeiladu cylched
  • Chwilio am namau.

Amcanion:

  • Deall egwyddorion systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Datblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl beirniadol ar systemau electronig
  • Dylunio a gosod prosiectau electronig.

Canlyniadau:

  • Bydd myfyrwyr yn gallu egluro cysyniadau sylfaenol systemau electronig a’u cymwysiadau
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dylunio systemau electronig sylfaenol  
  • Bydd myfyrwyr yn gallu adeiladu systemau electronig.

Gwybodaeth allweddol

Dim gofynion mynediad ffurfiol. Amodol ar gyfweliad. 

Bydd myfyrwyr yn adeiladu portffolio o dystiolaeth y gellid ei ddefnyddio i symud ymlaen i raglen amser llawn neu ran-amser.

Asesu:

  • Asesiadau ymarferol drwy gydol y cwrs

Yn y Coleg gallech symud ymlaen i raglenni electroneg EAL Lefel 2/3.  

Mae’r sector electroneg yn anhygoel o amrywiol:

  • Roboteg
  • Electroneg ddiwydiannol
  • Technegydd cyfrifiadurol
  • Technegydd clywedol
  • Electroneg feddygol
  • Technoleg cyfathrebu symudol
  • Technegydd deintyddol (Systemau electronig)
  • Nwyddau gwyn
  • Nwyddau brown.

Gall y cwrs arwain at yrfa lewyrchus yn y diwydiant electroneg.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Get Started in Electronics
Cod y cwrs: ZA092_P01
14/09/2026
Tycoch
15 weeks
Monday
5:30 - 8:30pm
£250.00