Skip to main content

Coleg ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes Cyfrifol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Busnes Cyfrifol gan Fusnes yn y Gymuned Cymru (BITC).

Mae’r Coleg yn cael ei ystyried ar gyfer Gwobr Lles yn y Gwaith Dŵr Cymru Welsh Water i gydnabod ei seminar ‘menopos yn y gweithle’ a gynhaliwyd ar Gampws Tycoch ym mis Tachwedd 2018.

Y seminar oedd y gyntaf i gael ei ffrydio’n fyw ar draws pob safle. Yn ogystal â chynyddu hygyrchedd ond roedd hyn wedi lleihau amser teithio, hawliadau treuliau milltiroedd ac ôl troed carbon y staff. Mae’r holl ostyngiadau hyn wedi helpu i gefnogi nodau ehangach Cynllun Teithio Gwyrdd y Coleg.

“Rydyn ni’n wirioneddol awyddus i ymgorffori mentrau iechyd a lles yn naturiol yn yr amgylchedd gwaith,” dywedodd y Cyfarwyddwr AD, Sarah King. “Y syniad y tu ôl i’r seminar hon oedd cymryd yr hyn sy’n cael ei weld yn bwnc iechyd na ddylid sôn amdano a’i droi yn ddigwyddiad prif ffrwd a fyddai’n fuddiol i gynifer o aelodau staff ag sy’n bosibl.”

Cafodd y seminar, a gyflwynwyd gan y maethegydd a’r awdur arobryn Nicki Williams, ei chynnal ar Gampws Tycoch y Coleg ond cafodd ei ffrydio’n fyw ar draws chwe safle arall ac roedd hyn wedi cynyddu cyfranogiad yn fawr. Yn ogystal, cafodd fideo ei lanlwytho i’r porth staff fel y gallai gael ei weld ar ddyddiad ac amser oedd yn gyfleus i staff.

“Trwy weithio mewn partneriaeth â’n hadran Gwasanaethau Cyfrifiadurol i ddarparu’r ffrwd fyw, roedden ni’n gallu cyrraedd llawer mwy o aelodau staff,” ychwanegodd Sarah. “Roedd tua 150 o bobl wedi gwylio’r darllediad a chafodd y fideo ei lawrlwytho 35 o weithiau. Mae hyn yn galonogol iawn oherwydd dyma’r tro cyntaf erioed i ni geisio rhywbeth fel hyn.”

Yn ddiweddar mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru am safon uchel ei arferion iechyd a lles gan ennill Gwobr Aur y Safon Iechyd Corfforaethol. Mae’r Coleg wedi sefydlu grŵp llywio lles sy’n hyrwyddo mentrau ac yn trefnu digwyddiadau trawsgolegol.

Mae Gwobrau Busnes Cyfrifol Cymru, a gynhelir yng Nghaerdydd ar 27 Mehefin, yn dathlu ac yn hyrwyddo’r busnesau ysbrydoledig ledled Cymru sy’n gwneud gwahaniaeth trwy gymryd camau i adeiladu gweithleoedd cynhwysol a chymunedau cryfach ac i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol.

“Mae’r busnesau hyn, mewn sawl ffordd, yn gwneud gwahaniaeth i ysgolion, cymunedau, staff, yr economi a’r amgylchedd trwy Gymru benbaladr,” dywedodd Cyfarwyddwr BITC Cymru, Matt Appleby. “Maen nhw’n cyffwrdd â chant a mil o fywydau mewn ffordd gadarnhaol. Yn bwysicaf oll, maen nhw’n cynnig enghreifftiau ysbrydoledig o arferion busnes cyfrifol y bydd eraill yn dewis eu dilyn.”