Skip to main content
Medalau Eisteddfod yr Urdd

Medalau Eisteddfod yr Urdd

Eleni, roedd ein myfyrwyr Celf Rhyngwladol wedi ennill nifer o wobrau Eisteddfod yr Urdd ar draws gwahanol gyfryngau.

Yn y rhagbrawf rhanbarthol, enillodd Bella, myfyriwr o Gorea, y wobr gyntaf yn y categorïau Graffeg Gyfrifiadurol a Graffeg mewn Ffotograffiaeth.

Roedd ein myfyrwyr Tsieineaidd hefyd wedi ennill gwobrau. Daeth y myfyriwr Ffotograffiaeth Trista yn gyntaf yn y categori Print Unlliw, ac enillodd Iris yn y categori Printio a Ffasiwn yn y rowndiau rhanbarthol ac yna aeth ymlaen i ddod yn ail yn y rowndiau cenedlaethol yn yr un categori.

Yn y llun mae’r myfyriwr celf gain Apple, o Tsieina, a ddaeth yn gyntaf yn y rowndiau rhanbarthol am Beintio 2D.

Roedd myfyrwyr wedi dathlu eu llwyddiant mewn seremoni wobrwyo arbennig a gynhaliwyd yn Theatr y Grand Abertawe.

Mae llwyddiant y cohort yn brawf o’r cymorth a’r anogaeth wych a gawsant gan eu darlithwyr pwnc.