Skip to main content
Shanghai yn galw myfyrwyr electroneg

Shanghai yn galw myfyrwyr electroneg

Mae pedwar myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd rownd derfynol genedlaethol WorldSkills y DU ar gyfer Electroneg Ddiwydiannol a fydd yn cael ei chynnal yn yr NEC ym mis Tachwedd.

Mae Rhys Watts, Liam Hughes, Ben Lewis a Nathan Evans i gyd yn dilyn cyrsiau Peirianneg Electronig ar Gampws Tycoch.

“Mae’r holl dîm addysgu wrth ei fodd ac yn hynod falch o’r myfyrwyr hyn,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Steve Williams. “Mae’r grŵp sy’n mynd i Birmingham ym mis Tachwedd yn cynnwys wyth dysgwr sy’n golygu bod hanner y tîm yn fyfyrwyr o Goleg Gŵyr Abertawe – mae hyn yn gyflawniad anhygoel.”

Gallai llwyddiant yng nghamau nesaf y gystadleuaeth benderfynu a fydd y myfyrwyr hyn yn mynd ymlaen i WorldSkills 2021 yn Shanghai.