Skip to main content

Dechrau Arni mewn Plymwaith Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel Mynediad
Tycoch
10 weeks
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Bydd y cwrs plymwaith gyda’r nos yn eich helpu i ennill yr wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau gyrfa yn y diwydiant plymwaith. Prif ffocws y cwrs fydd sgiliau llaw sylfaenol a chywiro diffygion domestig cyffredin. 

Mae strwythur y cwrs yn hyblyg a gellir ei deilwra i ateb anghenion a disgwyliadau’r dysgwyr, ond bydd cyfyngiadau ar y cwmpas addysgu oherwydd gofynion cyfreithiol. 

Bydd dysgwyr yn cyflawni gwaith cydosod pibellau sylfaenol gan ddefnyddio amrywiaeth o ffitiadau plymwaith cyffredin. Bydd dysgwyr hefyd yn cyflawni tasgau cynnal a chadw sylfaenol ar declynnau.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Bydd y cwrs yn cael ei addysgu yn bennaf mewn gweithdy, ond mae’n bosibl y bydd elfennau penodol yn cael eu haddysgu mewn ystafelloedd dosbarth gyda mynediad i TGCh. 

Bydd angen i ddysgwyr wisgo dillad gwaith addas ac esgidiau diogelwch mewn gweithdai.

Cofrestru ar gyrsiau rhan-amser – y diweddaraf

Rydym wrthi yn uwchraddio ein systemau, ac felly nid oes modd cofrestru ar gyrsiau rhan-amser ar-lein ar hyn o bryd.

Os hoffet ti gofrestru, cer i Gampws Tycoch, lle bydd ein tîm yn hapus i helpu.

Diolch am dy amynedd wrth i ni gwblhau’r gwelliannau hyn.

Get Started in Plumbing (Sep start)
Cod y cwrs: ZA520_P01
14/09/2026
Tycoch
10 weeks
TBA
5:30 - 8:30pm
£250.00
Get Started in Plumbing (Jan start)
Cod y cwrs: ZA520_P02
04/01/2027
Tycoch
10 weeks
TBA
5:30 - 8:30pm
£250.00
Get Started in Plumbing (Apr start)
Cod y cwrs: ZA520_P03
05/04/2027
Tycoch
10 weeks
TBA
5:30 - 8:30pm
£250.00