Skip to main content

Blas rygbi ar ginio cyntaf y Pennaeth

Yn ystod y cyfnod yn arwain at Bencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2020, roedd Coleg Gŵyr Abertawe wedi gwahodd grŵp o arweinwyr busnes lleol i ginio ecsgliwsif  yng nghwmni’r cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol Stuart Davies a’r gwestai arbennig James Hook.

Ymhlith y rhai fu’n bresennol roedd Alan Brayley o AB Glass a Chlwb Busnes Bae Abertawe, Sarah Davies o Gyfreithwyr JCP, Martin Morgan o Westy Morgans, Alun Williams o Gymdeithas Adeiladu Abertawe a Terry Edwards o John Weaver Contractors.

“Mae’n bwysig ein bod yn cynnal ein cysylltiadau â busnesau ar draws De Cymru fel y gallwn ni gasglu sylwadau a chanfyddiadau o’r tirlun economaidd sy’n newid a sicrhau bod ein darpariaeth yn parhau i fod yn addas at y diben,” meddai’r Prifathro Mark Jones. “Roedd archwilio’r tebygrwydd rhwng chwaraeon a menter yn ymarfer diddorol iawn ac mae nodweddion cyffredin bob amser yn deillio o baratoi, cryfder meddyliol a chorfforol, gwydnwch, gwaith tîm ac, heb os, arweinyddiaeth ysbrydoledig.”

Gan dynnu ymhellach ar y tebygrwydd rhwng arweinyddiaeth ar y cae ac mewn busnes, cafodd y digwyddiad ei gynnal ym mwyty Vanilla Pod y Coleg sydd ar agor i’r cyhoedd ac a enwyd yn ddiweddar gan WalesOnline fel ‘un o’r lleoedd bwyta bach gorau yn Abertawe’.

Yno, roedden nhw wedi mwynhau bwydlen à la carte llawn wedi’i pharatoi a’i gweini gan fyfyrwyr Arlwyo a Lletygarwch, ac mae un ohonynt - Paulina Skoczek - wedi ennill lle yn ddiweddar yng Ngharfan Hir WorldSkills ac mae ganddi gyfle i gystadlu yn Shanghai yn 2021.

“Roedd yn fraint wirioneddol dangos y Vanilla Pod a doniau ac arbenigedd ein myfyrwyr,” ychwanegodd Stuart Davies, Ymgynghorydd Busnes yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

“Roedd hefyd yn gyfle gwych i rwydweithio, rhannu syniadau ac - wrth gwrs - i holi James Hook am ei yrfa ddisglair. Ar ôl cyhoeddi’n ddiweddar ei ymddeoliad a’i flwyddyn dysteb, roedd James yn westai arbennig gwych, yn myfyrio ar ogoniannau a heriau’r gorffennol, ac yn rhoi ei farn am y Bencampwriaeth eleni.”

“Hwn oedd y cinio cyntaf yn yr hyn a fydd yn gyfres o giniawau’r Prifathro lle rydym yn gobeithio dod ag arweinwyr busnes yn agosach at y gwaith rydym yn ei wneud fel Coleg i sicrhau ein bod yn llunio ein portffolio yn briodol ar gyfer y dyfodol.”

Disgwylir i Goleg Gŵyr Abertawe gynnal nifer o ddigwyddiadau trwy gydol Wythnos Prentisiaethau Cymru (3 - 7 Chwefror) i godi ymwybyddiaeth o’i bortffolio eang o gyfleoedd dysgu wedi’u hariannu’n llawn.

Cysylltwch â training@coleggwyrabertawe.ac.uk neu ffoniwch 01792 284329 i gael rhagor o wybodaeth.

DIWEDD