Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn cael ei ystyried ar gyfer gwobrau cyfrifeg

Coleg Gŵyr Abertawe yn cael ei ystyried ar gyfer gwobrau cyfrifeg

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori yn nigwyddiad Gwobrau PQ Magazine eleni.

Mae’r Gwobrau PQ, sy’n cael eu cynnal yn Llundain ar 26 Chwefror, yn dathlu llwyddiannau ym myd dysgu ac addysgu cyfrifeg.

Y pedwar categori yw:

  • Coleg y flwyddyn
  • Arloesedd y flwyddyn (defnyddio cyllid SFI2 i gynyddu addysg gyfrifeg yn Ne-orllewin Cymru)
  • Tîm Cyfrifeg y flwyddyn (ein rhaglen Dyfodol Cyfrifeg a ddarperir gan Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol ar y cyd â thîm AAT a Safon Uwch Gorseinon)
  • Cyfrifydd newydd gymhwyso y flwyddyn - Megan Jonathan

“Rydyn ni wrth ein boddau i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer y gwobrau hyn,” meddai’r Rheolwr Maes Dysgu, Bruce Fellowes. “Mae hyn yn dyst unwaith eto i ymroddiad a phroffesiynoldeb y tîm addysgu cyfrifeg cyfan ond hefyd i ddoniau ein myfyrwyr. Dydyn ni ddim wedi cyrraedd y rhestr fer mewn pedwar categori o’r blaen ac felly rydyn ni i gyd yn hynod falch.”

Mae gan Goleg Gŵyr Abertawe hanes o berfformio’n dda yn y digwyddiad hwn - yn 2017, cafodd Paul Sizer, Arweinydd Cwricwlwm Cyfrifeg a Chyllid, ei enwi yn Bersonoliaeth Cyfrifeg y Flwyddyn ac enillodd Jayne Walker, Darlithydd a Mentor Cyfrifeg, y wobr Rheolwr Hyfforddi/Mentor Gweithle y Flwyddyn. Yn 2016, cafodd y Coleg ei enwi yn Goleg Cyfrifeg y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus).