Skip to main content

Myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe yn cael lle yng ngharfan y DU ar gyfer Cystadleuaeth Worldskills Ewrop

Mae 14 o brentisiaid a gweithwyr proffesiynol ifanc gorau’r DU wedi cael eu dewis i gystadlu yn erbyn crème de la crème eu cyfoedion Ewropeaidd ym mhrawf pwysau sgiliau mawr cyntaf y cyfnod ôl-Brexit - EuroSkills.

Rhys Watts, Prentis Technegydd Peirianneg Electronig yng Ngholeg Gŵyr Abertawe, yw’r ieuengaf o’r tîm, sy’n cynrychioli’r DU yn y categori Prototeipio Electroneg.

Mae Rhys wedi defnyddio ei gwrs Coleg mewn Peirianneg Electronig ochr yn ochr â’i hyfforddiant pwrpasol WorldSkills UK i gyrraedd y safon ryngwladol sy’n angenrheidiol i gystadlu yn EuroSkills,” meddai Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig y Coleg a Rheolwr Hyfforddi WorldSkills UK, Steve Williams.

Mae’r Coleg wedi ymgorffori safonau rhyngwladol WorldSkills yn y cwricwlwm craidd. Mae hyn wedi rhoi modd i dri dysgwr o Goleg Gŵyr Abertawe ddod yn aelodau o’r garfan ar gyfer Shanghai yn 2021.

Roedd y gystadleuaeth i sicrhau lle yng ngharfan EuroSkills yn ffyrnig. Roedd y garfan wedi gwthio ei gilydd i ddatblygu eu sgiliau technegol i’r lefel ofynnol, a’r canlyniad oedd i WorldSkills UK ddewis Rhys. Mae ei ymroddiad i’w daith WorldSkills yn ganmoladwy ac fel Prentis Technegydd Coleg Gŵyr Abertawe mae bellach yn trosglwyddo ei brofiad i’r garfan academaidd eleni. Da iawn, Rhys!

Rydyn ni wrth ein bodd â llwyddiant Rhys,” meddai Mark Jones, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe. “-mae hyn yn deillio o’i ymrwymiad enfawr i ddatblygu ei sgiliau ei hun, ond hefyd y cymorth cryf iawn y mae wedi’i gael yn y Coleg.

Mae tri o gydweithwyr Rhys’ hefyd wedi cael eu dewis ar gyfer Carfan y DU ac wedi gweithio mor galed trwy gydol proses WorldSkills - hyd yn oed trwy’r cyfnod clo - ac rydyn ni’n edrych ymlaen i weld gweddill eu teithiau yn datblygu.

Bydd Team UK - a gafodd ei ddewis, ei hyfforddi a’i fentora gan yr elusen addysg a sgiliau WorldSkills UK - yn mynd i Awstria ym mis Ionawr (6 - 10) i frwydro gyda mwy na 500 o gystadleuwyr o 28 Gwlad sy’n ymarfer 45 o ddisgyblaethau sgiliau gwahanol.

Mae’r gystadleuaeth yn Graz, a ohiriwyd oherwydd argyfwng Covid-19, yn cael ei hystyried yn ddangosydd pwysig o ran sut mae systemau sgiliau’r DU yn mesur yn erbyn cystadleuwyr economaidd allweddol ledled Ewrop.

Bydd Team UK yn cystadlu mewn sbectrwm eang o ddisgyblaethau yn amrywio o beirianneg i adeiladu, lletygarwch a digidol a chreadigol.

Dywedodd Dr Neil Bentley-Gockmann OBE, Prif Weithredwr WorldSkills UK: “Anghofiwch yr Ewros y tymor nesaf, bydd hyn yn wych, ac yn llawer mwy sylfaenol i ddyfodol ein gwlad - mae dangos y genhedlaeth nesaf yn rhoi modd i ni ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i helpu i adfer ein heconomi ac aros yn gystadleuol yn rhyngwladol.

Mae cymaint o ragdybiaeth wedi bod ynghylch sut bydd y Deyrnas Unedig yn ffynnu o ran perfformiad sgiliau. Bydd y gystadleuaeth gyda 27 o’n cymdogion agos ar draws y cyfandir yn feincnod gwych a bydd yn dangos beth mae Team UK yn gallu ei wneud.

Am flwyddyn gron mae’r 14 eisoes wedi bod trwy broses drwyadl o gystadlaethau rhanbarthol, rowndiau terfynol cenedlaethol a dewisiadau tîm i gyrraedd y pwynt hwn. Nawr maen nhw’n wynebu misoedd o hyfforddiant dwys i godi safonau i lefel ryngwladol elit, o dan arweiniad Rheolwyr Hyfforddiant WorldSkills UK.

Bydd llywodraethau a diwydiant yn gwylio gyda diddordeb i feincnodi pa mor dda y mae Team UK yn perfformio o’i gymharu â phrif gystadleuwyr Ewrop. Yn rowndiau terfynol blaenorol EuroSkills, a gynhaliwyd yn 2018 yn Budapest – daeth Team UK yn nawfed. Bydd WorldSkills UK yn defnyddio ei gyfranogiad yn Rowndiau Terfynol EuroSkills i gyfarwyddo gwaith ei Ganolfan Ragoriaeth, mewn partneriaeth â NCFE, sy’n defnyddio mewnwelediadau unigryw WorldSkills UK i systemau sgiliau Ewropeaidd a byd-eang i brif-ffrydio rhagoriaeth ym maes datblygu sgiliau.