Skip to main content
Gower College Swansea Virtual Annual Student Awards 2021

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Rhithwir Coleg Gŵyr Abertawe 2021

Am yr ail flwyddyn yn olynol, symudodd Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol Coleg Gŵyr Abertawe ar-lein ac, unwaith eto, roedd yn ddathliad rhithwir gwych o lwyddiant myfyrwyr.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys 23 categori gwobr ar wahân ar draws darpariaeth helaeth y Coleg gan gynnwys amser llawn, rhan-amser, prentisiaethau, rhaglenni cyflogadwyedd a chyrsiau Addysg Uwch.

Amy tro cyntaf erioed, ni allai’r panel dyfarnu ddewis un enillydd cyffredinol yn unig ac felly roedd dau Fyfyriwr Ysbrydoledig y Flwyddyn 2021 - Caitlin Smith ac Annabel Khastgir.  
 
Mae’r ddwy wedi goresgyn nifer o rwystrau i sicrhau llwyddiant, Prentisiaeth Gradd gydag Ernst & Young a chynnig diamod i astudio Bioleg Cadwraeth ac Ecoleg yn un  o brifysgolion blaenllaw'r DU.

Roedd y noson hefyd yn nodedig am ei chyfraniadau gan fyfyrwyr ddoe a heddiw, gydag ymddangosiad arbennig gan enillydd dwy fedal Arian Olympaidd a phencampwr nofio'r Gymanwlad ac Ewrop Jazz Carlin a pherfformiad i gloi gan aelodau presennol a chyn-aelodau o fand jas y Coleg, gyda datganiad o The Locked Down Chicken.

Gwobrau Myfyrwyr Blynyddol