Skip to main content

Gofaint Arian - Canolradd / Uwch

Rhan-amser
Lefel 3
Llwyn y Bryn
10 wythnos
Ffôn: 01792 284021 (Llwyn y Bryn)

Arolwg

Bwriad y tri chwrs 10 wythnos hyn yw annog datblygiad technegau gofaint arian a rhoi cyfle i chi wella’r sgiliau sydd gennych eisoes.

Cwrs 1: Technegau gosod cerrig megis gosodiad tiwb, gosodiad cyfwyneb a gwneud cylchyn; neu, ar lefel Uwch, gemwaith gyda gosodiadau lluosog. Gellir defnyddio’r gosodiadau hyn gyda cherrig ffasedog mewn gemwaith arian.

Cwrs 2: Byddwch yn cynhyrchu dyluniadau gemwaith mewn ymateb i ddiwylliant Cymru, gan gymryd ysbrydoliaeth o arfordir Cymru, yr iaith Gymraeg a barddoniaeth, neu gael syniadau o’r Mabinogi. Gall myfyrwyr Uwch ddewis eu thema eu hunain. Byddwch yn defnyddio amrywiaeth o ddefnyddiau a thechnegau, sy’n briodol i’ch lefel, i gynhyrchu gwaith gemwaith arian. 

Cwrs 3: Bydd y cwrs hwn yn astudio enamelau, technegau ffurfio, rhybedu a stampio a chodi a ffurfio Uwch. Disgwylir i fyfyrwyr fod yn arbrofol a rhoi cynnig ar wahanol brosesau er mwyn ehangu eu sgiliau dylunio a gwneud, a chynhyrchu gemwaith o ddyluniadau wedi’u hysbrydoli gan eu gwaith ymchwil eu hunain.

Gwybodaeth allweddol

Mae dilyniant drwy gydol y flwyddyn, ond mae pob cwrs Gofaint Arian yn gallu bod yn annibynnol o’r lleill – byddwch yn dysgu sgiliau sylfaenol ar bob cwrs yn ôl yr angen.

Darperir yr holl offer mewn gweithdy llawn cyfarpar. Bydd rhaid i fyfyrwyr brynu eu harian eu hunain ac mae hyn ar gael yn https://www.cooksongold.com

Bydd cost y defnyddiau’n dibynnu ar y dyluniadau unigol a’r dewis cerrig. Bydd o leiaf un prosiect i’w gwblhau ar bob cwrs.

Y ffi stiwdio yw £10

Silversmithing
Cod y cwrs: ZD161 ELD3
11/04/2024
10 weeks
Thu
6.30-8.30pm
£220
Intermediate/Advanced