Skip to main content

Myfyrwyr yn Dechrau Siop Gynaliadwy

Yr wythnos hon, lansiodd ein myfyrwyr Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn a Thecstilau siop ar-lein sy’n canolbwyntio ar ffasiwn gynaliadwy.

Mae ‘Amended’, brand cyfunol gan fyfyrwyr newydd, yn defnyddio arferion cynaliadwy yn unig sydd wrth wraidd y broses ddylunio a gweithgynhyrchu er mwyn creu bagiau llaw pwrpasol.

Mae’r myfyrwyr wedi creu’r darnau unigryw drwy gyfuno gweddillion ffabrigau, ffabrigau cynaliadwy, a dillad wedi’u hailgylchu â dulliau torri diwastraff.

Mae pob eitem wedi’i dylunio a’i gweithgynhyrchu’n ofalus i leihau’r effaith ar yr amgylchedd a helpu i gyfrannu at economi ffasiwn gylchol.

“Dwi’n hynod falch o’r cyflawniad hwn,” dywedodd Susanne David, Arweinydd y Rhaglen Gradd Sylfaen Dylunio Ffasiwn gyda Menter. “Dwi’n credi mai ni yw’r unig sefydliad yn y DU ar hyn o bryd sydd â’i frand ffasiwn mewnol ei hun, a, gan ei fod yn frand cynaliadwy, mae’n hyrwyddo’r ffaith ein bod ni wrthi’n annog profiad ffasiwn mwy moesegol a chynaliadwy i siopwyr.

Mae rhoi’r cyfle anhygoel hwn i’n dysgwyr hefyd yn rhoi’r sgiliau menter a masnachol sydd eu hangen arnyn nhw i ymuno â’r diwydiant ffasiwn cystadleuol, naill ai fel gweithwyr neu i sefydlu eu busnes eu hunain ar ôl graddio.”

Facebook | Instagram

Gall unrhyw un sy’n dymuno dilyn ôl troed y myfyrwyr hyn wneud cais am y cwrs Gradd Sylfaen mewn Dylunio Ffasiwn gyda Menter yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Nod y cwrs yw darparu lefel uchel o sgiliau technegol, creadigol, deallusol a chyfathrebu (gweledol, ysgrifenedig a llafar) i fyfyrwyr ac mae’n cynnig cyfle i ddatblygu’r arbenigedd sy’n angenrheidiol i ddilyn gyrfa yn y diwydiannau ffasiwn a thecstilau trwy sefydlu eich menter eich hun, neu gael cyflogaeth.

https://www.gcs.ac.uk/cy/he-course/gradd-sylfaen-mewn-ffasiwn-a-dylunio-tecstilau