Skip to main content

Diweddariad ar fesurau covid ar ôl y Pasg

Rydyn ni’n parhau i weithio’n agos gyda’r Tîm Rheoli Digwyddiad lleol ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gennym fesurau yn eu lle i gadw ein myfyrwyr i ddysgu a chymuned y Coleg yn ddiogel. Ar hyn o bryd, mae’r rhain yn cynnwys:

Dwylo – dylech chi barhau i olchi a diheintio’ch dwylo
Wyneb - gwisgwch orchudd wyneb mewn mannau cymunol (oni bai eich bod wedi’ch eithrio)
Lle - cadwch bellter corfforol oddi wrth eraill.

Yn unol â diweddariad covid Llywodraeth Cymru sydd i’w gyhoeddi yfory (dydd Gwener 15 Ebrill), byddwn ni’n cyfleu unrhyw newidiadau neu ddiweddariadau newydd yn barod ar gyfer dechrau’r tymor. Cadwch lygad ar ein cyfryngau cymdeithasol a’n gwefan.