Skip to main content

Gwallt a Cholur y Cyfryngau Lefel 2 - Diploma

Amser-llawn
Lefel 2
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Yn ystod y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn datblygu holl sgiliau hanfodol gwallt a cholur ar gyfer y diwydiant ffasiwn, teledu a ffilm.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys:

  • Coluro
  • Colur ffotograffig
  • Y grefft o drin gwallt
  • Creu delwedd
  • Celf y corff
  • Peintio wynebau â thema
  • Y grefft o liwio gwallt.

Gwybodaeth allweddol

  • O leiaf dair gradd A*-D ar lefel TGAU
  • Diddordeb brwd yn y diwydiant.

Mae’r asesiadau’n barhaus drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys arsylwadau ymarferol, profion ysgrifenedig, nawsfyrddau a dyddiaduron.

Bydd gofyn i bob myfyriwr brynu cit, gwisg ac offer ysgrifennu. Byddwn yn trafod costau yn y cyfweliad.