Skip to main content

Gradd Sylfaen mewn Addysg, Dysgu a Datblygu

HE
Lefel 4/5
UoSW
Tycoch
Three years
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Cwrs breiniol o Brifysgol De Cymru.

Gallai'r cwrs hwn gael ei ailddilysu.

Hyd: Tair blynedd

Mae’r Radd Sylfaen hon mewn Addysg, Dysgu a Datblygu yn rhoi cyfle i chi ennill gradd sy’n cyfuno gweithgareddau yn y gwaith ac astudio academaidd. Fe’i cynlluniwyd i’w gwblhau mewn tair blynedd. Mae’n cynnwys cyfran fawr o ddysgu seiliedig ar waith, dysgu yn y swydd, gan ganolbwyntio ar eich profiad a’ch rôl gwaith.

Diweddarwyd Rhagfyr 2022

Gwybodaeth allweddol

Dylech feddu ar gymhwyster Lefel 3 cysylltiedig a sgiliau llythrennedd a rhifedd da, yn ddelfrydol gyda gradd C neu gyfwerth ar lefel TGAU mewn Saesneg a mathemateg.

Rhaid i bob ymgeisydd fod mewn swydd fel gweithiwr cymorth yn ystod y cwrs a chael o leiaf 12 awr o gymorth uniongyrchol gyda dysgwyr yr wythnos.

Mae hwn yn gwrs rhan-amser tair blynedd sy’n rhedeg yn ystod y flwyddyn academaidd Medi i Fehefin ac mae presenoldeb am dair awr dros ddwy noson yr wythnos (naill ai 5pm i 8pm neu 6pm i 9pm).

Ym Mlwyddyn Un y modiwlau yw (80 credyd):

  • Sgiliau Academaidd ac Ymarfer Myfyriol (20 credyd)
  • Dysgu a Gwybyddiaeth (20 credyd)
  • Llythrennedd Iaith, Rhifedd a Llythrennedd Digidol (40 credyd)

Ym Mlwyddyn Dau y modiwlau yw (80 credyd):

  • Cyflwyniad i Anghenion Dysgu Ychwanegol (20 credyd)
  • Lles Iechyd a Gwydnwch (20 credyd)
  • Ymarfer Cynhwysol (20 credyd)
  • Cwricwla (20 credyd)

Ym Mlwyddyn Tri y modiwlau yw (80 credyd):

  • Prosiect Ymchwil (40 credyd)
  • Ymarfer Myfyriol (20 credyd)
  • Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed (20 credyd)

Mae’r asesiad yn seiliedig ar aseiniadau ysgrifenedig, asesiadau ymarferol ac arfer a arsylwyd yn yr ystafell ddosbarth.

Bydd y rhai sy’n cwblhau’r Radd Sylfaen yn gallu mynd ymlaen i gwrs BA (Anrh), er enghraifft, BA (Anrh) mewn Addysg, Dysgu a Datblygu ym Mhrifysgol De Cymru neu BA (Anrh) mewn Addysg Gynhwysol ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Achrediad Dysgu Blaenorol

Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth am ddysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn: https://celt.southwales.ac.uk/recognition-prior-learning/

Y ffioedd cyfredol yw £2,880 y flwyddyn - mae hyn yn uwch na’r uchafswm cymorth ffioedd dysgu sef £2,625  

Bydd rhaid i fyfyrwyr dalu'r gwahaniaeth o £255 os oes ganddynt fenthyciad ffioedd dysgu.

I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau a grantiau ffioedd dysgu, ewch i www.studentfinancewales.co.uk

Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:

  • teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
  • costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
  • argraffu a rhwymo
  • gynau ar gyfer seremonïau graddio
  • £38 tuag at wiriad DBS sy’n ofynnol ar gyfer y cwrs

*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.