Cyfrifon Dysgu Personol
Mae Cyfrifon Dysgu Personol yn gyrsiau am ddim sy’n rhoi sgiliau newydd a chymwysterau i chi – cymwysterau y mae cyflogwyr lleol yn chwilio amdanynt. Bydd y cyrsiau hyn yn eich helpu i fanteisio ar brinder sgiliau a rhoi hwb i’ch gyrfa.
Os ydych yn hŷn na 19, mewn swydd sy’n ennill llai na £26,000 y flwyddyn* ac rydych am gymryd y cam nesaf at yrfa wych, gallai Cyfrif Dysgu Personol fod yr hyn rydych yn chwilio amdano.
Yn well fyth, maen nhw’n hyblyg – ac felly gallwch astudio o amgylch eich gwaith a’ch ymrwymiadau teuluol.
Ar y diwedd, byddwch yn gweld digon o swyddi gwag gwych sy’n talu’n dda – p’un ai ydych am symud ymlaen yn eich gyrfa bresennol neu ei newid yn gyfan gwbl!
Mae’r meysydd cyrsiau a gynigiwn yn cynnwys:
- Adeiladu
- Creadigol
- Digidol
- Gwasanaethau ariannol
- Hamdden a thwristiaeth
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Peirianneg
Unrhyw gwestiynau? Cysylltwch ag aelod o’r tîm ar 01792 284400 neu e-bostiwch elizabeth.hurford@gcs.ac.uk
* Os ydych yn weithiwr ar ffyrlo, rydych yn dal i fod yn gymwys i wneud cais am gwrs Cyfrif Dysgu Personol ni waeth beth yw’ch lefel cyflog.