Canolfan Chwaraeon

 

Gwersyll Chwaraeon i Blant Hanner Tymor (5-12 OED)    Rhagor o wybodaeth

Myfyriwr

£13.50
y mis

Dim ffi ymuno

Sengl

£27.50
y mis

Dim ffi ymuno

Cwpl

£119
am 3 mis

Am 3 mis

 

01792 284088

-

sportscentre@gcs.ac.uk

Mae gan y Ganolfan Chwaraeon, a leolir ar Gampws Tycoch, rywbeth i bawb. P’un ai ydych yn gobeithio cadw’n heini, cystadlu ar lefel uchel, neu gael hwyl, mae ein cyfleusterau a’n rhaglenni yn ceisio ateb eich anghenion.

Mae aelodaeth ar agor i’r cyhoedd yn gyffredinol, ac mae aelodaeth ar ddisgownt ar gael i staff a myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe.

Mae’r cyfleusterau yn y Ganolfan Chwaraeon yn cynnwys campfa, neuadd chwaraeon, ystafell troelli/beicio dan do ac ystafell codi pwysau. Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau ffitrwydd, fel pilates, troelli a hyfforddiant dwyster uchel.

Mae ein campfa lawn cyfarpar yn cynnwys yr offer cardio ac hyfforddiant pwysau diweddaraf, gan ddarparu popeth sydd ei angen arnoch i gadw’n heini ac aros yn iach.

Os ydych chi’n ystyried mynd â’ch hyfforddiant cryfder i’r lefel nesaf, byddwch chi wrth eich bodd yn yr ystafell codi pwysau, o’r enw ‘Yr Efail’, sy’n cynnwys yr holl bwysau a pheiriannau o ansawdd uchel i’ch helpu i fagu cyhyrau a gwella’ch ffitrwydd yn gyffredinol.

Ond nid dyna’r cyfan! Ein neuadd chwaraeon fawr yw’r lle perffaith i gymryd rhan mewn chwaraeon tîm a gweithgareddau grŵp. Gyda digon o le i chwarae pêl-fasged, pêl-foli, badminton, a mwy, cewch ddigon o gyfleoedd i gymdeithasu, cystadlu a chael hwyl.

Yn y Ganolfan Chwaraeon, rydyn ni’n darparu amgylchedd croesawgar a chynhwysol i bawb ni waeth beth yw eich oedran neu eich lefel ffitrwydd. Mae ein staff profiadol wrth law i gynnig arweiniad a chymorth i’ch helpu i gyrraedd eich nodau ffitrwydd.

Ein dosbarthiadau

Rydym wedi cadw ein hamserlen yn syml, gan ganolbwyntio ar ein pum dosbarth mwyaf poblogaidd. Mae pob un o’n dosbarthiadau wedi’u teilwra i wahanol lefelau gallu a ffitrwydd.

Troelli Keiser

Dosbarth seiclo dan do i gyfeiliant cerddoriaeth sy’n canolbwyntio ar ddygnwch, cryfder, hyfforddiant egwyl a hyfforddiant dwysedd uchel. Sesiwn ymarfer ardderchog a ffordd hwyliog o losgi calorïau, cyflyru’r cyhyrau a lleddfu straen.

Total Body Blast

Ymarfer corff deinamig i’r corff cyfan ar gyfer pob lefel.

Pilates

Canolbwyntio ar eich osgo, lluniant y corff a sadrwydd craidd. Amrywiaeth lawn o symudiadau araf i hybu ystwythder y cyhyrau a chryfder.

Oes pen-blwydd arbennig ar y gweill?

Gallwn ni eich helpu i gynllunio parti llawn hwyl!
Parti castell neidio neu barti chwaraeon plant (gwahanol chwaraeon ar gael).
Tatŵs dros dro i blant a chwarae meddal ar gael am gost ychwanegol.
Sylwch: Dim ond plant 5+oed ar gyfer y partïon chwaraeon.
Ffoniwch ni heddiw ar 01792 284088 neu e-bostiwch sportscentre@gcs.ac.uk

Aelodaeth o'r Ganolfan Chwaraeon

Sports Centre

Aelodaeth o'r Gampfa

Cyfnod 1 mis 3 mis 6 mis 12 mis
Pris (sengl) £27.50 £70/52.50* £113/80.50* £190/130*
Pris (pâr) n/a £119/86* £190.50/130* £327/207*

*Dewis Aelodaeth Adegau Tawel: Llun - Gwener 6.30am - 4.30pm a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn unig.

Aelodaeth o'r Gampfa i Fyfyrwyr*

Cyfnod 1 mis 6 mis 12 mis  
Pris (sengl) £13.50 £66 £110  

* Rhaid i chi ddangos prawf dilys eich bod chi'n fyfyriwr h.y. cerdyn UCM.

Aelodaeth GORFFORAETHOL (e.e. yr Heddlu a'r GIG)

Cyfnod 3 mis 6 mis 12 mis  
Pris (sengl) £64 £104.50 £190.50
Adegau tawel* £42 - -

Campfa    Hyfforddiant Cylchol    Badminton

*Dewis Aelodaeth Adegau Tawel: Llun - Gwener 6.30am - 4.30pm a thrwy'r dydd ar ddydd Sadwrn a dydd Sul yn unig.

 

Darganfyddwch yr ystod eang o gyfleusterau sydd ar gael yng Nghanolfan Chwaraeon Tycoch, gan gynnwys campfa, ystafell droelli/beicio, a The Forge; ystafell Olympaidd lle gallwch godi pwysau a derbyn hyfforddiant ymarferol. Bydd y daith VR yn dangos y mannau a ddefnyddir ar gyfer ein hyfforddiant ffitrwydd yn ogystal â’n dosbarthiadau.

 

Sports Centre


View Gower College Swansea Sites in a larger map

Sut i ddod o hyd i ni

Canolfan Chwaraeon
Heol Tycoch
Abertawe
SA2 9EB

Ffôn: 01792 284088
E-bost: sportscentre@gcs.ac.uk
Dilynwch ni:
Facebook
Twitter
Instagram

Oriau agor

Llun - Iau - 6.30am - 10pm
Gwener - 6.30am - 9pm
Sadwrn - 8am - 7pm
Sul - 8am - 9pm

Mae'r ganolfan chwaraeon ar gau ar y diwrnodau canlynol*:

Dydd Gwener y Groglith - Dydd Llun y Pasg
Calan Mai
Gŵyl Banc y Sulgwyn
Gŵyl Banc mis Awst
Dydd Nadolig i Ddydd Calan

*Sylwch bydd y Ganolfan Chwaraeon yn cau yn ystod tywydd garw. Os bydd unrhyw ran o'r Coleg ar gau yn yr amgylchiadau hyn, bydd neges yn cael ei rhoi ar y dudalen hafan a gaiff ei diweddaru'n gyson.