Y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 - Diploma Estynedig
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn gyfwerth â thri chwrs Safon Uwch. Mae amrywiaeth o feysydd astudio ar draws yr holl ddisgyblaethau gan gynnwys techneg actio, theatr glasurol, techneg canu, symudiad cyfoes, a pherfformio theatr gerdd.
Bydd y cwrs dwy flynedd hwn yn cynnig amrywiaeth o feysydd astudio ar draws disgyblaethau dawns, actio a chanu gan gynnwys ystod o sgiliau megis:
- Techneg actio
- Perfformiad wedi’i sgriptio
- Perfformiad theatr gerdd
- Theatr i blant
- Theatr glasurol
- Techneg canu
- Canu ensemble
- Symudiad cyfoes
- Jazz
- Bale.
Er bod pwyslais ar waith ymarferol a pherfformio, bydd rhaid i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig a datblygu’ch sgiliau fel ymarferydd gwybodus a myfyriol trwy lyfrau log gwerthusol a dyddiaduron ymarfer. Byddwch yn dysgu sut i werthuso a gwneud sylwadau beirniadol ar ymarfer proffesiynol ac ymchwil yn ogystal â’ch taith greadigol eich hun.
Asesir eich dysgu trwy brosiectau. Byddwch yn cwblhau’r rhain yn dymhorol – bydd y prosiectau yn amrywio a a gallech gael eich asesu trwy senario cynhyrchu go iawn, dyddiaduron, cyflwyniadau, traethodau a a pherfformiadau.
Gwybodaeth allweddol
- Pum gradd C ar lefel TGAU gan gynnwys Saesneg Iaith, neu radd Teilyngdod Diploma Lefel 2 yn y Celfyddydau Perfformio
- Rhaid bod gennych ddiddordeb brwd yn y celfyddydau perfformio, yn ddelfrydol gyda phrofiad o berfformio.
Mae’r cwrs Y Celfyddydau Perfformio Lefel 3 yn cael ei addysgu ym Mloc y Celfyddydau, Campws Gorseinon. Mae’n gwrs amser llawn sy’n canolbwyntio ar wersi a addysgir a gwaith prosiect. Fel rhan o amserlen Lefel 3, byddwch chi hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru Lefel 3.
Mae ein myfyrwyr wedi symud ymlaen i amrywiaeth o brifysgolion nodedig a cholegau arbenigol. Mae cynigion yn cynnwys lleoedd yn Mountview, Arts Ed, RADA, Laine Theatre Arts, East 15, LIPA, RWCMD, Bird College, Urdang, GSA, Academi Emil Dale a Chanolfan Stiwdio Llundain.
Mae cynigion prifysgol yn cynnwys: Prifysgol Chichester, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - Caerdydd, Ysgol Actio Arden – Prifysgol Manceinion, Prifysgol Cymbria, Prifysgol Swydd Gaerloyw, Coleg Blackpool a Fylde, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Dinas Birmingham, Prifysgol Portsmouth, Prifysgol y Santes Fair Twickenham a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd.
Yn ogystal, mae myfyrwyr hefyd wedi cael lle ar ein cwrs Diploma Proffesiynol Lefel 4 mewn Perfformio gan ddilyn llwybr actio neu theatr gerdd.
Costau’r cwrs:
Oherwydd natur y cwrs mae ffi stiwdio o £150 fesul blwyddyn astudio. Mae costau’r cwrs yn rhoi modd i ni drefnu gwibdeithiau i’r theatr, rhoi cyfleoedd gweithdy a gwahodd siaradwyr gwadd proffesiynol y diwydiant.
Ymweliadau theatr:
Yn ystod y flwyddyn cewch gyfleoedd i fynd i gynyrchiadau lleol a pherfformiadau nodedig yn Stratford a Llundain. Mae’r gwibdeithiau a drefnir yn dibynnu ar berfformiadau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn.
Gweithdai:
Bydd gweithdai penodol yn cael eu trefnu sy’n gysylltiedig â’r cwrs Lefel 3 a byddant yn amrywio yn dibynnu ar ffocws y tymor.
Academi:
Bob prynhawn Mercher, caiff myfyrwyr gyfleoedd ychwanegol i weithio gydag amrywiaeth o ymarferwyr proffesiynol. Mae sesiynau blaenorol wedi cynnwys: Actio ar gyfer Teledu a Ffilm, Llais ar gyfer Radio, Cynrychiolydd Dawns Theatr Gerdd, Hyfforddi Un i Un ar gyfer Clyweliadau a phrosiect perfformio dwyieithog.