Skip to main content

Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
UAL
Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Trosolwg

Mae UAL Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw yn gyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch yn system pwyntiau UCAS.

Yma yng Ngholeg Gŵyr Abertawe byddwch yn astudio nifer o ddisgyblaethau gan gynnwys:

  • Rheoli llwyfan
  • Goleuadau
  • Sain
  • Gwneud propiau
  • Dylunio
  • Gwisgoedd
  • Adeiladu golygfeydd.

Er bod yna bwyslais ar waith ymarferol a chynhyrchu, bydd angen i chi gwblhau aseiniadau ysgrifenedig a datblygu eich sgiliau trwy lyfrau log gwerthusol a myfyrdodau ymarfer. Byddwch yn dysgu i werthuso a gwneud sylwadau beirniadol ar ymarfer proffesiynol ac ymchwil yn ogystal â’ch taith greadigol eich hun.

Asesir eich dysgu trwy brosiectau. Byddwch yn cwblhau’r rhain bob tymor – bydd y prosiectau yn amrywio a gallech gael eich asesu trwy senario cynhyrchu bywyd go iawn, dyddiaduron, cyflwyniadau, traethodau a pherfformiadau.

Gwybodaeth allweddol

  • Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys Saesneg Iaith
  • neu gymhwyster cyfwerth
  • Rhaid bod gan ddysgwyr ddiddordeb brwd mewn celf cynhyrchu
  • Profiad o berfformio yn ddelfrydol.

Addysgir y cwrs yn y Bloc Celfyddydau  ar Gampws Gorseinon ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar asesiadau ymarferol gyda thystiolaeth yn cael ei chynhyrchu trwy ymchwil a llyfrau log datblygu.

Lle bo’n bosibl, bydd asesiadau ystafell ddosbarth yn cael eu cysylltu â gwaith cynhyrchu a wnaed yn ystod eich cwrs.

Fel rhan o’r amserlen Lefel 3 byddwch hefyd yn astudio Bagloriaeth Cymru Lefel 3.

Mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i amrywiaeth o golegau drama arbenigol gan gynnwys Ysgol Actio Guildford, RADA, Bristol Old Vic, Mountview ac Arts Ed.

Mae gyrfaoedd yn cynnwys rheoli llwyfan, dylunio gwisgoedd, dylunio goleuadau/sain neu waith technegol.

Ffioedd cwrs:

Ffioedd y cwrs yw £150 y flwyddyn. Mae hyn yn rhoi modd i ni drefnu gwibdeithiau theatr, darparu cyfleoedd gweithdai a gwahodd gweithwyr proffesiynol byd diwydiant fel siaradwyr gwadd.

Ymweliadau theatr:

Drwy gydol y flwyddyn, cewch gyfleoedd i weld cynhyrchiadau lleol a pherfformiadau nodedig yn Llundain a Stratford-Upon-Avon. Mae’r gwibdeithiau a drefnir yn ddibynnol ar y perfformiadau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn.  

Gweithdai:

Bydd gweithdai yn cael eu teilwra i’r cwrs Lefel 3 a byddant yn amrywio yn dibynnu ar ffocws pob tymor.