Skip to main content

Cymorth Dysgu Ychwanegol

Tîm cymorth dysgu (dysgwyr â datganiad)

Bydd eich cyfnod pontio i’r Coleg yn dechrau ymhell cyn i chi gyrraedd ym mis Medi – dysgwch sut y gallwn ni eich helpu i baratoi.

Rhwystrau corfforol i ddysgu

Mae ein tîm dynodedig o Gynorthwywyr Cymorth Dysgu yn gallu rhoi amrywiaeth o gymorth pwrpasol i chi.

Tîm niwroamrywiaeth (dysgwyr heb ddatganiad)

Mae ein hathrawon cymorth arbenigol yn gallu eich helpu os oes gennych gyflwr niwroamrywiaeth e.e. ADHD, awtistiaeth, dyslecsia ac ati.

Oedolion sy’n ddysgwyr/dysgwyr sy’n dychwelyd

Yma mae gwybodaeth ddefnyddiol i’r rhai sy’n dychwelyd i addysg ar ôl amser i ffwrdd o’r ystafell ddosbarth.

Cymorth technoleg gynorthwyol

Rydyn ni’n gallu darparu hyfforddiant un-i-un ar gyfer technoleg newydd a chymorth parhaus. Mae’r opsiynau sydd ar gael yn cynnwys cyfrifiaduron bwrdd gwaith y gallwch chi eu haddasu, a meddalwedd arbenigol.

Swyddog Pontio ac Adolygu

Bydd y cymorth rydyn ni’n ei gynnig cyn i chi gyrraedd yn parhau drwy gydol eich amser gyda ni a bydd yn parhau ar ôl i chi adael y Coleg.

Cymorth dysgu i fyfyrwyr addysg uwch

Rydyn ni’n gallu rhoi cymorth arbenigol i chi drwy gydol eich amser yn y Coleg ac rydyn ni’n gallu ateb anghenion ystod eang o gyflyrau niwroamrywiol.

Sgiliau Byw’n Annibynnol (SBA)

Mae’r adran SBA yn cynnwys myfyrwyr â galluoedd ac anghenion amrywiol, ac mae'n gweithio ar gwricwlwm sy’n ceisio diwallu eu dyheadau a’u nodau unigol.