Skip to main content

Plastro Solet Lefel 3 - Prentisiaeth Available in Welsh

Prentisiaeth
Lefel 3
Llys Jiwbilî
3 blynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster City & Guilds Adeiladu mewn Plastro Solet Lefel 3 yn darparu dull manwl o blastro solet, ac yn ateb gofynion y sector adeiladu yng Nghymru, gan gynnwys gweithio ym maes adeiladu traddodiadol, newydd a chyn-1919 a thechnolegau newydd. 

Bydd dysgwyr yn datblygu’r canlynol:

  • Y gallu i gynllunio prosiectau gwaith ar y safle yn effeithiol 
  • Y gallu i adolygu a gwerthuso ansawdd y gwaith a gwblhawyd ar y safle yn effeithiol 
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth o’r offer, y technegau, y defnyddiau a’r technolegau a ddefnyddir mewn plastro solet a sut maen nhw’n newid ac wedi newid, dros amser 
  • Sgiliau cyflogadwyedd a’u gallu i’w defnyddio mewn amgylchedd gwaith 
  • Deall cynaladwyedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol fel sy’n briodol i waith adeiladu a’r amgylchedd adeiledig 
  • Gwybodaeth a dealltwriaeth alwedigaethol o blastro solet 
  • Perfformiad galwedigaethol mewn plastro solet.

Nod y cwrs yw rhoi modd i ddysgwyr seiliedig ar waith i ddangos a gwella eu sgiliau galwedigaethol.  

Gwybodaeth allweddol

  • Rhaid eich bod wedi’ch cyflogi fel prentis 
  • Graddau A*-D ar lefel TGAU mewn Mathemateg a Saesneg Iaith. Gallwn drafod cymwysterau eraill. 

Asesu: 

Os yw’r dysgwr yn dilyn y cymhwyster Lefel 3 hwn fel rhan o’i brentisiaeth heb gyflawni’r cymhwyster Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu yn gyntaf: 

  • Tri phrawf amlddewis ar-lein 
  • Un prosiect wedi’i osod yn allanol, wedi’i farcio’n fewnol 
  • Un drafodaeth dan arweiniad, wedi’i marcio’n fewnol 
  • Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr 
  • Un drafodaeth broffesiynol.

Os yw’r dysgwr wedi cwblhau Lefel 2 Sylfaen mewn Adeiladu:  

  • Dau brawf amlddewis ar-lein 
  • Un prosiect ymarferol wedi’i osod gan gyflogwr 
  • Un drafodaeth broffesiynol.

Cyflogaeth neu hunangyflogaeth.

Rhaid eich bod yn gyflogedig fel prentis i wneud cais am y cwrs hwn.