Prentisiaeth Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth (L3)

Prentisiaeth
Lefel 3
Tycoch
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Byddwch yn cwblhau’r ddau gymhwyster canlynol fel rhan o’r fframwaith prentisiaethau:

Gwyddoniaeth Gymhwysol (Diploma Lefel 3) a Gweithgareddau Labordy a Thechnegol Cysylltiedig (NVQ Lefel 3).

Mae meysydd astudio’n cynnwys:

  • Gweithio yn y diwydiant gwyddoniaeth
  • Hanfodion gwyddoniaeth
  • Technegau ymarferol gwyddonol
  • Defnyddio offer mathemategol mewn gwyddoniaeth.

Byddwch hefyd yn astudio sgiliau hanfodol mewn llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol.

19/12/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

O leiaf bum gradd C neu uwch ar lefel TGAU. Rhaid i’r rhain gynnwys mathemateg, Saesneg ac o leiaf un pwnc gwyddoniaeth.

Cyfleoedd Dilyniant

Prentisiaeth Uwch Technegwyr Labordy a Gwyddoniaeth (Lefel 4).

Astudiaethau pellach yn y brifysgol mewn pwnc cysylltiedig.

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!