Skip to main content

Dysgu a Datblygu -Tystysgrif

Prentisiaeth
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cwrs hwn yn addas i ddysgwyr sy’n gweithio neu sydd am weithio fel hyfforddwyr / tiwtoriaid / aseswyr mewn amrywiaeth o sectorau.

Bwriedir y cymwysterau hyn i bobl sy’n gweithio mewn rolau dysgu a datblygu, neu sy’n ystyried mentro i’r rolau hyn. Maen nhw wedi cael eu datblygu gan LLUK i ddisodli cymwysterau NVQ Dysgu a Datblygu. Maen nhw wedi’u cynllunio i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Tystysgrif Lefel 3 = 30 Credyd

Mae gan bob uned nifer wahanol o gredydau ac mae pob uned yn werth chwe neu dri chredyd. Bydd nifer yr unedau y bydd angen i bob ymgeisydd ei chyflawni er mwyn ennill y cymhwyster yn dibynnu ar nifer y credydau sydd gan bob uned.

Bydd yr unedau a’r cymwysterau yn rhoi cyfle i bobl sy’n gwneud rolau dysgu a datblygu yn eu sefydliad ddatblygu a gwella eu harferion yn ogystal â chyflawni cymhwyster proffesynol ar gyfer y rôl.

Caiff pob uned ei rhannu yn ddeilliannau dysgu a meini prawf asesu.  Rhaid i ddysgwyr arddangos eu gwybodaeth a’u gallu i’w haseswr drwy amrywiaeth o ddulliau asesu. Gallai’r rhain gynnwys arsylwi yn y gweithle; tystiolaeth gan arbenigwr; cwestiynau llafar ac ysgrifenedig; trafodaeth broffesiynol gyda’ch aseswr a chwblhau taflenni gweithgareddau. 

01/06/22

Gwybodaeth allweddol

Ni ddylai dysgwyr gael eu cofrestru ar gyfer cymhwyster sydd â’r un math o gynnwys a’r un lefel â chymhwyster sydd eisoes gyda nhw. Nid yw City & Guilds wedi gosod unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cymwysterau hyn. Fodd bynnag, rhaid i ddysgwyr allu arddangos eu gallu mewn amgylchedd go iawn gyda dysgwyr go iawn er mwyn gallu bodloni’r holl ofynion.

Addysgir y cwrs ar ffurf asesiadau seiliedig ar waith dros 12-18 mis. Caiff hyn ei asesu gan aseswr/hyfforddwr sy’n alwedigaethol alluog â chymwysterau addas o’r Tîm Rheoli. Bydd dysgwyr yn cael mynediad i sesiynau wedi’u haddysgu yn y Coleg ar gyfer yr wybodaeth sylfaenol a’r gweithdai misol (trwy apwyntiad) ac i gwrdd â’ch aseswr/hyfforddwr ar gyfer sesiynau tiwtorial unigol.

Cynrychiolir y Gyfadran gan diwtoriaid/hyfforddwyr sydd i gyd yn gymwysedig ym maes Rheolaeth a rhyngddynt, maen nhw’n cynnwys holl brif feysydd y sector Preifat a Chyhoeddus.

Cysylltwch â ni yn y cyfeiriad isod neu ffoniwch 01792 284400 i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ffioedd.

Sylwch na fyddwn yn cadw lle ar y cwrs i chi oni bai ein bod wedi cael y ffurflen gofrestru a’r tâl gan yr ymgeisydd. Mae dulliau talu yn cynnwys siec yn daladwy i Coleg Gŵyr Abertawe, cerdyn talu, arian parod yn ein canolfan neu Archeb Brynu gan eich cyflogwr. Dychwelwch eich ffurflen a’r dull talu o’ch dewis i:

Hyfforddiant GCS
Coleg Gŵyr Abertawe
Uned 1 a 2
Llys Jiwbilî
Fforestfach
Abertawe
SA5 4HB

Mae myfyrwyr rhyngwladol nad ydynt yn gymwys ar gyfer ffioedd cartref yn gallu cael ffioedd dysgu rhyngwladol llawn (ar gael ar gais). Pe baem yn dod yn ymwybodol o wybodaeth ar ôl i chi gofrestru sy’n newid eich statws mewnfudo yna efallai y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd Rhyngwladol llawn.

Gallwch ddilyn y cwrs ar safle Coleg Gŵyr Abertawe neu mewn lleoliad addas o ddewis y cyflogwr.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r:
01792 284400
Ebost: training@gcs.ac.uk