Skip to main content

Y Meini Prawf a’r Broses ar gyfer derbyn Bwrsari AU – Cyrsiau AU Amser Llawn

Mae’r Coleg yn cynnig Bwrsari blynyddol i Fyfyrwyr AU Amser Llawn sy’n astudio rhaglenni sydd wedi’u breinio gan Sefydliadau Addysg Uwch. Mae hyn yn berthnasol i fyfyrwyr waeth beth yw blwyddyn eu cwrs.

Ar gyfer cyrsiau sy’n cael eu breinio gan Brifysgolion, mae’r bwrsari yn £1000 y flwyddyn.

Rhennir y bwrsari yn ddau daliad cyfartal. Darperir y bwrsari gan Goleg Gŵyr Abertawe ac nid yw’n ddibynnol ar unrhyw bolisïau breiniol Sefydliadau Addysg Uwch e.e. Presenoldeb Gofynnol. Dylid cynnwys datganiad sy’n egluro hyn yn glir ym mhob llawlyfr cwrs.

Bwrsari Cychwynnol– Bwrsari Cynnydd (Chwefror/Mawrth)
Er mwyn derbyn y taliad cyntaf rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol erbyn 31 Ionawr 2022:

  • Presenoldeb o 70%
  • Cyflwyno pob aseiniad erbyn y dyddiad cywir*1
  • Cyflwyno copi o setliad boddhaol o ffioedd / tystiolaeth o drefniadau Cyllid Myfyrwyr (e.e. llythyr grant) i dîm Cyllid y Coleg.

Os na ddiwallir y meini prawf uchod, ni fydd y taliad cychwynnol o £500 yn cael ei wneud.

*1  Pan fo myfyriwr yn cyflwyno cais i beidio â chyflwyno gwaith oherwydd amgylchiadau esgusodol, bydd y bwrsari yn cael ei rhoi i’r unigolyn os caniateir y cais hynny. Bydd dyddiad cau newydd ar gyfer gwaith yr unigolyn yn cael ei drefnu. Mae hyn yn debygol o oedi’r broses o ddosbarthu’r bwrsari.

Bwrsari Diwedd Blwyddyn – Bwrsari Cwblhau (Mai/Mehefin)
Er mwyn derbyn yr ail fwrsari rhaid i fyfyrwyr ddiwallu’r gofynion canlynol:

Cyrsiau Blwyddyn

  • Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi derbyn Dyfarniad cyfan y cwrs

*os cadarnheir eich dyfarniad gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.

Blwyddyn Gyntaf Cyrsiau Dwy Flynedd

  • Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cyflawni’r gofynion ar gyfer symud ymlaen i ail flwyddyn y cwrs

*Os cadarnheir yr uchod gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.

Ail Flwyddyn Cyrsiau Dwy Flynedd

  • Cadarnhad gan y bwrdd arholi terfynol (neu fwrdd cyfatebol) eich bod wedi cwblhau’r cwrs

*Os cadarnheir hyn gan fwrdd arholi hwyr e.e. bwrdd ailsefyll, bydd taliad y bwrsari yn cael ei oedi.

Bydd yr un meini prawf yn berthnasol i gyrsiau sy’n hirach na dwy flynedd. Ar hyn o bryd does dim cyrsiau yn cael eu cyflwyno dros gyfnod sy’n hirach na dwy flynedd.