Skip to main content

BPEC Systemau Dŵr Poeth Thermol Solar – Cymhwyster

GCS Training
BPEC
Tycoch
Pedwar diwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae BPEC Systemau Dŵr Poeth Thermol Solar yn addas ar gyfer plymwyr a pheirianyddion gwasanaethau adeiladu wrth eu gwaith, lle bydd dysgwyr yn datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o systemau technoleg amgylcheddol thermol solar.

Bydd dysgwyr yn datblygu a dangos yr wybodaeth sydd ei hangen i osod, comisiynu a throsglwyddo systemau dŵr poeth thermol solar, gan gynnwys arolygu, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau dŵr poeth thermol solar.

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gall dysgwyr wneud cais i gael achrediad MCS neu ymuno â chynllun personau cymwys i gofrestru gosodiadau.

Gwybodaeth allweddol

Bydd angen i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd yn y canlynol:

  • Rheoliadau dŵr/Is-ddeddfau dŵr (WRAS, BPEC, ERC neu’r cyfwerth)
  • Systemau storio dŵr poeth domestig heb awyrell (UVDHW) (ERS, BPEC neu’r cyfwerth)
  • Effeithlonrwydd ynni ar gyfer gwresogi domestig (City & Guilds 6084 neu’r cyfwerth)

Mae cyfweliad byr gyda thiwtor y cwrs yn ofynnol.

Addysgir y cwrs dros bedwar diwrnod, gan gynnwys un diwrnod asesu yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe ar Gampws Tycoch.

  • BPEC Systemau Pwmp Gwres
  • BPEC Systemau Ffotofoltäig Solar

Asesir y cwrs trwy arholiad amlddewis ar-lein, yn ogystal ag asesiad ymarferol mewn amgylchedd efelychiedig.

Ffi’r cwrs yw £650, sy’n cynnwys cofrestriad cwrs, llawlyfr ac ardystiad.

Mae’n hanfodol bod dysgwyr yn dod â math o ddull adnabod ffotograffig gyda nhw ar ddiwrnod yr arholiad, fel arall mae’n bosibl na fyddwch yn gallu sefyll yr arholiad.