Skip to main content

Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) BPEC 1999 - Cwrs

GCS Training
BPEC
Tycoch
Un diwrnod
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Mae’r cwrs Rheoliadau Cyflenwi Dŵr (Ffitiadau Dŵr) BPEC 1999 yn addas ar gyfer peirianwyr gwasanaethau adeiladu sydd am gofrestru gyda Chynllun Personau Cymwys megis Cynllun Ymgynghori Rheoliadau Dŵr (WRAS).

Mae’r cwrs yn bennaf yn cynnwys gwaith theori a bydd gofyn i ddysgwyr feddu ar ddealltwriaeth dda o systemau plymio cyn gwneud cais i astudio’r rhaglen.

Gwybodaeth allweddol

Bydd gan ddysgwyr gymhwyster masnachol gydnabyddedig neu barodrwydd i weithio tuag at sicrhau cymhwyster o’r fath, neu dystiolaeth sy’n profi eu bod ganddynt brofiad o weithio o fewn y sector plymio a/neu wresogi.

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno mewn un diwrnod yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe, Campws Tycoch.

  • Dogfen G3 gymeradwy - BPEC Systemau Dŵr Cynnes Wedi’u Hawyru a Heb eu Hawyru (HWSS)
  • Effeithlonrwydd Ynni mewn Anheddau Domestig

Mae'r cymwysterau uchod yn ofyniad mynediad i'n cyrsiau Technoleg Adnewyddadwy.
 

Bydd y cwrs yn cael ei asesu trwy arholiad amlddewis.

Ffi’r cwrs yw £220, a bydd hyn yn cynnwys cofrestru ar gyfer y cwrs, llawlyfr ac ardystiad.