Skip to main content

Rheoli’n Ddiogel (IOSH) - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
IOSH
Llys Jiwbilî
Tri diwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y cwrs ar gyfer rheolwyr a goruchwylwyr sydd â chyfrifoldebau iechyd a diogelwch o ddydd i ddydd. Bydd yn rhoi hyder a brwdfrydedd i reolwyr gymhwyso gwybodaeth i’r gweithle, a bydd yn helpu i wella ymwybyddiaeth o ddiogelwch mewn sefydliad. 

Gwybodaeth allweddol

Gallwn fod yn hyblyg ar y cwrs hwn. Mae cyfnodau astudio, diwrnodau astudio a dulliau addysgu pwrpasol i’r cleient i gyd ar gael. 

Unedau

  • Cyflwyniad i reoli’n ddiogel
  • Asesu risgiau
  • Rheoli risgiau
  • Deall cyfrifoldebau 
  • Deall peryglon
  • Ymchwilio i ddigwyddiadau 
  • Mesur perfformiad
  • Asesiad aml-fformat

Os oes gan ddysgwr anghenion dysgu ychwanegol, bydd angen o leiaf chwe wythnos o rybudd arnom i weithredu’r broses sydd ei hangen.

Os byddwch yn cadw lle ar y cwrs o fewn y cyfnod hwn o chwe wythnos ac mae angen cymorth ychwanegol arnoch, dylech ystyried dewis dyddiad arall neu roi gwybod i ni pan fyddwch yn cadw lle.

Ar ôl cwblhau’r cwrs, cewch dystysgrif gan IOSH i ddangos eich bod wedi ei gwblhau’n llwyddiannus.