Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y cwrs blwyddyn hwn yw cyflwyno myfyrwyr i’r sgiliau technolegol, creadigol a phersonol sy’n gysylltiedig â gwaith yn niwydiannau’r cyfryngau.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth a sgiliau ar gyfer gyrfaoedd yn y cyfryngau a byddwch yn gweithio i greu amrywiaeth o gynhyrchion i’r cyfryngau megis fideo, sain a dylunio graffig.
Yn raddol bydd gennych ystod o raddau o’r aseiniadau a gwblhewch, ac mae llawer ohonynt yn asesiadau ymarferol, gyda’r bwriad o gopïo arferion gweithio mewn sectorau o ddiwydiant y cyfryngau. Ochr yn ochr ag unedau’r cyfryngau, bydd myfyrwyr yn astudio TGCh, llythrennedd a rhifedd i sicrhau bod ganddynt yr holl sgiliau angenrheidiol a ofynnir gan gyflogwyr.
Y modiwlau astudio yw:
- Ymchwil ar gyfer cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol
- Technegau cyfathrebu ar gyfer cynhyrchu yn y cyfryngau creadigol
- Sector y cyfryngau creadigol
- Cynulleidfaoedd a chynhyrchion y cyfryngau
- Cynhyrchu fideo
- Cynhyrchu sain
- Technegau animeiddio
- Awduro gwe
Diweddarwyd Ionawr 2021
Gofynion Mynediad
Un radd C ar lefel TGAU, gyda nifer o raddau D neu E. Mae diddordeb yn y cyfryngau a pharodrwydd i gymryd rhan mewn prosiectau creadigol yn hanfodol.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae’r holl asesiadau yn seiliedig ar brosiectau parhaus trwy asesu parhaus. Nid oes arholiadau ar y cwrs ac felly mae’ch cymwysterau yn deillio o’r gwaith rydych yn ei wneud o ddydd i ddydd, o wythnos i wythnos.
Addysgir y cwrs am 14.5 awr yr wythnos dros dri diwrnod.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae’r rhan fwyaf o fyfyrwyr yn symud ymlaen i gyrsiau Lefel 3 mewn pynciau cysylltiedig â’r cyfryngau megis Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (UAL)
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae ffi stiwdio o £25 ar gyfer y cwrs hwn.