Trosolwg o’r Cwrs
Bwriad y cwrs blwyddyn hwn yw datblygu’ch gwybodaeth a’ch sgiliau ymarferol mewn perfformio cerdd a chynhyrchu cerdd. Byddwch yn astudio pob maes cerddoriaeth gan gynnwys y diwydiant, dadansoddi cynhyrchiad a pherfformiadau unigol/ensemble.
26/10/22
Gofynion Mynediad
Pedair gradd D ar lefel TGAU neu gymwysterau cyfwerth. Yn amodol ar gyfweliad a chlyweliad.
Dull Addysgu’r Cwrs
Mae ffocws ymarferol i’r cwrs. Byddwch yn perfformio yn unigol ac mewn ensembles, gweithio yn y stiwdio recordio a dechrau datblygu sgiliau megis ysgrifennu caneuon, dilyniannu, a threfnu.
Cyfleoedd Dilyniant
Mae myfyrwyr sy’n llwyddo i gwblhau’r cwrs hwn yn tueddu i symud ymlaen i’r cwrs BTEC Diploma / Diploma Estynedig mewn Cerddoriaeth.
Gall myfyrwyr geisio cyflogaeth mewn amrywiaeth o rolau o gynhyrchydd cynorthwyol i redwyr y cyfryngau a swyddogion cymorth lleoliadau.
Gwybodaeth Ychwanegol
Darperir yr holl gyfarpar ar gyfer unedau cerddoriaeth ensemble ac unigol. Mae gennym ddwy stiwdio recordio llawn cyfarpar a phum stiwdio ymarfer llawn cyfarpar, sy’n cynnwys offer drymiau, offer mwyhau gitâr a bas, yn ogystal ag amrywiaeth eang o gitarau trydanol, gitarau bas a gitarau acwstig.
Darperir yr holl gyfarpar ar gyfer gweithdai cyfansoddi, gan gynnwys clustffonau safonol proffesiynol.
Bydd ffi stiwdio o £50 ar gyfer y cwrs hwn.