Rhagoriaeth a Pherfformiad Chwaraeon – Rygbi (Diploma Estynedig L3)

Amser llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Gorseinon
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Mae’r cwrs unigryw a newydd sbon hwn yn berffaith i’r rhai a hoffai ddatblygu’ch sgiliau a’ch perfformiad Rygbi’r Undeb a Rygbi’r Gynghrair eich hun, ochr yn ochr ag astudio hyfforddi.

Mae’n cynnwys y Dystysgrif Estynedig (Blwyddyn 1) sy’n newid i’r Diploma Estynedig Cenedlaethol (ym Mlwyddyn 2), gan sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni cymhwyster cyfwerth â thri chymhwyster Safon Uwch, ac mae’n rhoi pwyslais ar eu perfformiad a’u dilyniant rygbi eu hunain.

Byddwch yn dysgu technegau hyfforddi gwerthfawr ar gyfer amrywiaeth o boblogaethau rygbi, o blant ifanc i chwaraewyr proffesiynol elit.

Byddwch yn datblygu sgiliau ymarferol trwy amrywiaeth o leoliadau diwydiant lleol ac ymweliadau addysgol.

Mae gennym gysylltiadau gwaith agos ag Undeb Rygbu Cymru a’r Gweilch, ac rydym yn Academi Datblygu Cynghrair Rygbi Cymru ddynodedig gyda chysylltiadau agos â Thîm Super League Salford City Red Devils, ac rydym yn ceisio darparu llwybr academaidd clir i fyfyrwyr yn ogystal â llwybr chwaraewr elit.

Byddwch yn astudio amrywiaeth o unedau gorfodol penodol i’r pwnc:

Unedau enghreifftiol:

  • Anatomeg a ffisioleg cymhwysol ar gyfer perfformiad proffesiynol
  • Gyrfaoedd yn y diwydiant chwaraeon a hamdden egnïol
  • Iechyd, lles a chwaraeon
  • Perfformiwr chwaraeon proffesiynol
  • Prosiect ymchwil mewn chwaraeon
  • Maeth ar gyfer perfformiad corfforol
  • Seicoleg ar gyfer perfformiad chwaraeon proffesiynol

15/2/23

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Pum gradd C neu uwch ar lefel TGAU, neu Lefel 2 mewn Chwaraeon neu Baratoi ar gyfer Gwasanaethau Cyhoeddus (Proffil Teilyngdod).

Gradd C o leiaf mewn Saesneg, mae gradd C mewn mathemateg yn ddymunol.

Bydd gofyn i chi ddangos eich sgiliau a’ch dealltwriaeth o rygbi mewn gwersyll hyfforddi cyn y cwrs.

Dull Addysgu’r Cwrs

Bydd dulliau asesu yn cynnwys amrywiaeth o waith prosiect ac aseiniad, traethodau, cyflwyniadau, prosiectau ymchwil a phrofion. Cewch gyfle hefyd i gwblhau cymwysterau ychwanegol, fel:

  • Dyfarniad Arweinwyr Rygbi
  • WRU L1 ac RFL L1
  • WRU L1 Dyfarnwr a Swyddog Gemau Ewrop L1 Rygbi’r Gynghrair
  • Cymorth Cyntaf
  • Amddiffyn Plant

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn hyfforddi am hyd at 10 awr yr wythnos, gan gystadlu yng Nghynghrair Ysgolion a Cholegau Cenedlaethol Undeb Rygbu Cymru ac Adran y De Cynghrair Colegau RFL. Os hoffech ddatblygu’ch sgiliau a’ch perfformiad rygbi (undeb a chynghrair) eich hun, ochr yn ochr ag astudio chwaraeon a hyfforddi, bydd y cwrs hwn yn berffaith i chi.

Cyfleoedd Dilyniant

Gallech chi aros gyda Choleg Gŵyr Abertawe a symud ymlaen i’r cwrs Gradd Sylfaen mewn Datblygu a Rheoli Chwaraeon.

Mae myfyrwyr hefyd wedi symud ymlaen i Addysg Uwch i ddilyn gyrfaoedd mewn addysgu, hyfforddi, rheoli chwaraeon a’r diwydiant hamdden ehangach.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Marc O’Kelly (Arweinydd Cwriclwm) - marc.okelly@gcs.ac.uk

 

Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!