Skip to main content

Cyfrifiadura Lefel 3 - Diploma Estynedig

Amser-llawn
Lefel 3
BTEC Extended Diploma
Tycoch, Gorseinon
Dwy flynedd
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch), 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Yn y cwrs dwy flynedd hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion cyfrifiadura trwy brosiectau ymarferol ac ymarferion mewn dylunio cronfa ddata, dylunio gwefannau, gosod gweinydd, rhaglennu mewn ieithoedd fel C# a dylunio gemau mewn rhaglenni fel Unreal Engine. Bydd yr ymarferion ymarferol hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn cystadlaethau gan gynnwys Sgiliau Cymru a WorldSkills lle byddan nhw’n dangos eu sgiliau wrth ddatrys problemau byd go iawn. 

Amcanion y cwrs: 

  • Deall egwyddorion sylfaenol cyfrifiadura a’i gymwysiadau  
  • Datblygu sgiliau datrys problemau a sgiliau meddwl beirniadol  
  • Ysgrifennu rhaglenni syml gan ddefnyddio iaith raglennu  
  • Deall egwyddorion seiberddiogelwch 
  • Adeiladu rhwydweithiau cyfrifiadurol cymhleth a seilwaith gweinydd.

Deilliannau'r cwrs: 

  • Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth o amrywiaeth o agweddau yn y diwydiant technoleg 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys rhaglennu, seiberddiogelwch, technegydd TG, rheoli gweinydd, dylunio gwefannau, ac adeiladu cronfa ddata. 

Gwybodaeth allweddol

Asesu: 

  • Cyfuniad o arholiadau a gwaith cwrs allanol.  

Meini Prawf Graddio: 

  • Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 

Yn y Coleg, gallech symud ymlaen i’r cwrs HND Cyfrifiadura Cymhwysol.

Mae cyn-fyfyrwyr wedi symud ymlaen i astudio amrywiaeth eang o raddau cysylltiedig â TG neu gyfrifiadura yn y brifysgol gan gynnwys systemau gwybodaeth gyfrifiadurol, gwaith fforensig ar gyfrifiaduron, datblygu gemau cyfrifiadurol a chyfrifiadureg. Mae eu dewis prifysgol hefyd wedi bod yn amrywiol, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a Phrifysgol Caerdydd neu Brifysgol Metropolitan Caerdydd. Gall myfyrwyr hefyd ddewis dilyn prentisiaeth neu fynd yn syth i’r diwydiant technoleg. 

Explore in VR