Diploma Cyntaf Lefel 2 mewn Technoleg Gwybodaeth a Chreadigol

Amser llawn
Lefel 2
Diploma
Tycoch
Un flwyddyn
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ar y cwrs blwyddyn hwn, bydd myfyrwyr yn dysgu hanfodion TGCh a Chyfrifiadura.

Dysgwch am ddylunio gwefannau i greu a datblygu eich gwefannau eich hun. Dysgwch godio i ysgrifennu eich rhaglenni eich hun a dysgwch sgiliau caledwedd a meddalwedd cyfrifiaduron personol i osod, uwchraddio ac adeiladu systemau cyfrifiadurol. Bydd datblygu amlgyfryngau yn eich dysgu i greu fideos a gemau. Mae’r unedau hyn yn rhoi modd i fyfyrwyr ddatblygu eu sgiliau a pharatoi i symud ymlaen i gwrs Cyfrifiadura Lefel 3. Byddant yn gallu defnyddio’r gwaith y maen nhw wedi’i greu i hyrwyddo eu sgiliau i ddarpar gyflogwyr. 

Amcanion y Cwrs:

  • Ennill dealltwriaeth eang o TGCh a gallu astudio rhai meysydd yn fanylach 
  • Datblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth o TGCh 
  • Dysgu sut i greu gwefannau, ysgrifennu rhaglenni ac adeiladu cyfrifiaduron 
  • Datblygu a chreu gemau cyfrifiadurol ynghyd â golygu eich fideo eich hun 
  • Cael cyfle i gymhwyso dysgu mewn ffordd ymarferol a realistig Course 
  • Dilyn rhaglen astudio sy’nrhoi modd i chi symud ymlaen i gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfrifiadureg
  • Magu hyder trwy ddatblygu sgiliau dysgu annibynnol 
  • Cymryd rhan mewn digwyddiadau e-Chwaraeon fel British Esports, Insomnia ac ati 
  • Cymryd rhan yng nghystadlaethau Sgiliau Cymru a WorldSkills. 

Deilliannau'r Cwrs:

  • Bydd gan fyfyrwyr wybodaeth o agweddau amrywiol ar y diwydiant cyfrifiadura 
  • Bydd myfyrwyr yn gallu dewis o blith amrywiaeth o yrfaoedd gan gynnwys dylunio gwefan, codio a thechnegydd TG. 

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Dull Addysgu’r Cwrs

Asesu: 

Cyfuniad o arholiadau allanol a gwaith cwrs.  

Meini Prawf Graddio: 

Pasio, Teilyngdod neu Ragoriaeth. 

Cyfleoedd Dilyniant

Gall myfyrwyr sydd wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu i’r cwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Cyfrifiadura.

 

Archwiliwch y lleoliad hwn mewn 3D


Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!