Technolegau Peirianneg Electronig (Diploma L2)

Amser llawn
Lefel 2
EAL
Tycoch
one year
Ymgeisiwch nawr

Trosolwg

Ar y cwrs blwyddyn hwn byddwch yn archwilio’r datblygiadau technolegol diweddaraf mewn peirianneg electronig:

  • Integreiddio technoleg ddigidol yn y cartref
  • Teledu manylder uwch Ultra
  • Teledu protocol y rhyngrwyd
  • Cyfathrebu symudol
  • Technoleg cyfrifiaduron
  • Cymwysiadau technoleg ddigidol diwydiannol
  • Electroneg ddigidol ac analog.

25/10/22

Gwybodaeth allweddol

Gofynion Mynediad

Pedair gradd D neu uwch ar lefel TGAU.

Dull Addysgu’r Cwrs

Addysgir y cwrs yn ein gweithdai technoleg ddigidol modern sy’n flaenllaw yn y sector. Bydd yn cynnwys llawer o waith ymarferol a bydd myfyrwyr yn datblygu portffolio o’u gwaith ynghyd â gwaith prosiect ac ymchwil. Yn ogystal mae rhaglen profiad gwaith y bydd yr holl fyfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan ynddi i’w helpu i feithrin cysylltiadau â darpar gyflogwyr yn y dyfodol.

Asesir y cwrs drwy ein system ymateb myfyrwyr, sy’n olrhain datblygiad myfyrwyr drwy gydol eu rhaglen astudio. Bydd pwyslais mawr hefyd ar fesur gwella setiau sgiliau’r myfyrwyr ac mae hyn yn allweddol o ran cael prentisiaeth gyda chyflogwr lleol. Addysgir y cwrs dros bedwar diwrnod gyda’r pumed diwrnod ar gyfer astudio annibynnol y gwaith prosiect ac ymchwil.

Cyfleoedd Dilyniant

Bydd myfyrwyr llwyddiannus yn cael cyfle i symud ymlaen i’r cwrs Technegydd Peirianneg Electronig Uwch neu ddechrau prentisiaeth.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd myfyrwyr yn cymryd rhan mewn wythnos o brofiad gwaith, a bydd rhaid i fyfyrwyr brynu esgidiau amddiffynnol ar gyfer hwn. Mae gwibdaith flynyddol i’r Amgueddfa Wyddoniaeth yn Llundain ac efallai bydd rhaid gwneud cyfraniad bach o £10 y pen ar gyfer hon.

 

Archwiliwch y lleoliad hwn mewn 3D


Hoffech chi astudio'r cwrs hwn?

Ymgeisiwch nawr!