Skip to main content

Gwybodaeth am arholiadau ac asesiadau 2022 

Rydym yn gobeithio eich bod yn mwynhau dechrau’r flwyddyn academaidd newydd gyda ni.

Gan fod hanner cyntaf y tymor yn dod i ben, rydyn ni’n teimlo mai dyma’r cyfle i roi gwybod i chi am y cynlluniau asesu sydd ar waith ar gyfer y cymwysterau rydych chi’n eu hastudio. 

Gosodwyd y cynlluniau hyn gan Cymwysterau Cymru, y sefydliad annibynnol sy’n gyfrifol am reoleiddio cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru.

Haf 2022
Cymwysterau TGAU, UG, Safon Uwch, a Thystysgrif Her Sgiliau 

Mae CBAC a byrddau arholi eraill wedi gwneud newidiadau i’r cymwysterau ar gyfer haf 2022. Mae gwybodaeth am y newidiadau i’w gweld ar wefan CBAC.

Yn achos byrddau arholi yn Lloegr, gallwch gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar wefan JCQ.  

Mae’r newidiadau hyn ar waith gan fod y pandemig wedi tarfu ar eich dysgu. Maen nhw’n wahanol ym mhob cymhwyster a byddan nhw’n eich helpu i ganolbwyntio’ch amser o ran paratoi ar gyfer eich arholiadau yr haf nesaf.

Sut bydd cymwysterau TGAU, Safon UG ac Uwch a Thystysgrif Her Sgiliau’n cael eu hasesu a’u graddio yn haf 2022? 
Y bwriad yw y bydd arholiadau’n cael eu cynnal yr haf nesaf. Mae hyn yn golygu y dylech gael eich asesu yn eich pynciau yn y ffordd arferol.

Rhaid i’r broses raddio fod mor deg ag sy’n bosibl i bawb ac mae’n adlewyrchu’r tarfu ar ddysgu ac addysgu rydych chi wedi’i brofi hyd yn hyn ac efallai eleni hefyd. Felly, ar gyfer haf 2022, bydd y dull yr un peth i chi ag y bydd mewn rhannau eraill o’r DU. 

Mae hyn hefyd yn bwysig i sicrhau bod gennych gymwysterau o werth cyfartal â’r rhai a gymerwyd gan ddysgwyr o rannau eraill o’r DU fel y gallwch symud ymlaen i’r cam nesaf o’ch addysg neu’ch gyrfa. 

Beth fydd yn digwydd os na all arholiadau TGAU, Safon UG ac Uwch gael eu cynnal yn haf 2022? 
Rydym yn disgwyl y bydd arholiadau’n cael eu cynnal fel y cynlluniwyd a dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddan nhw’n cael eu canslo. Ond, os yw’r gyfres o arholiadau’n cael ei chanslo, bydd y cynllun wrth gefn canlynol yn cael ei roi ar waith. 

Cynllun wrth gefn - gofynnir i’ch darlithwyr ddyfarnu graddau seiliedig ar eich gwaith mewn asesiadau ar draws y cymhwyster drwy gydol y flwyddyn. Erbyn diwedd Tachwedd 2021 byddwn ni’n dweud wrthych ba asesiadau y gallen ni eu defnyddio. 

Haf 2022
Beth sy’n digwydd gyda chymwysterau galwedigaethol? 

Y bwriad yw y bydd cymwysterau galwedigaethol yn cael eu hasesu yn y ffordd arferol eleni. Byddwch yn cwblhau’r aseiniadau priodol fel rhan o’ch cwrs.

Os yw rhan o’ch cymhwyster galwedigaethol neu bob rhan ohono yn cael ei hasesu trwy arholiad, bydd y rhain yn mynd yn eu blaen fel y cynlluniwyd. Fodd bynnag, os bydd unrhyw arholiadau’n cael eu canslo, bydd cynllun wrth gefn yn cael ei roi ar waith. 

Cynllun wrth gefn – os yw’n bosibl, bydd yr arholiadau’n cael eu haildrefnu ar gyfer nes ymlaen yn y flwyddyn. Os nad yw hyn yn bosibl, gofynnir i’ch darlithwyr ddyfarnu graddau seiliedig ar eich gwaith mewn asesiadau ar draws y cymhwyster drwy gydol y flwyddyn. 

Rydym yn deall yn llwyr efallai fod gennych bryderon o ran arholiadau’n dychwelyd a byddwn ni’n eich cefnogi bob cam o’r ffordd.

Gallwch ddarllen y llythyr llawn i ddysgwyr Cymwysterau Cymru yma.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon, siaradwch â’ch tiwtor.

Nikki Neale
Cyfarwyddwr Cwricwlwm ac Ansawdd