Skip to main content
Aur a bri i Dîm y DU

Aur a bri i Dîm y DU

Mae Tîm y DU – sy’n cynnwys prentisiaid a myfyrwyr ifanc gorau’r genedl –wedi dychwelyd o Rowndiau Terfynol Euroskills ym Mwdapest yn gyforiog o fedalau a bri.

Yn eu plith mae cyn-fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe.

Cystadlodd Collette Gorvett, sydd yn awr yn gweithio yn y Ritz yn Llundain, yn erbyn 19 o rai eraill yn y categori Gwasanaethau Tŷ Bwyta a dyfarnwyd Medaliwm Rhagoriaeth iddi hi.

Yn gyfan gwbl, enillodd Tîm y DU un Aur, tair Pres a saith Medaliwn Rhagoriaeth. Atgyfnerthodd y canlyniadau hyn , a osododd y DU yn y nawfed safle allan o 27 gwlad, y trefnwyr WorldSkills UK, a’u cenhadaeth o sbarduno gyrfaoedd a chyflawni rhagoriaeth a’r lefelau gorau o berfformio sgiliau.

“Rydym yn aruthrol o falch o gyflawniadau Collette ar bob cam o’r broses hon,” meddai’r Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Mae’r profiad hwn wedi ei gwneud hi’n fwy penderfynol byth i gyflawni ac mae hi’n awyddus i barhau gyda’i hyfforddiant i baratoi ar gyfer camau nesaf cystadlu (WorldSkills Rwsia 2019)lle bydd hi’n brwydro am le y DU yn erbyn ei chydfyfyriwr gynt o Goleg Gŵyr Ryan Kenyon, sy’n gweithio nawr yn Cliveden House.”

“Mae Collette yn parhau i fod yn fodel rôl gwych i’r Coleg ac yn ysbrydoliaeth i fyfyrwyr eraill,” ychwanega darlithydd/mentor Nicola Rees. “Er ei bod yn Llundain, mae hi’n dychwelyd i Gampws Tycoch yn fuan iawn i fy nghynorthwyo i hyfforddi Paige Jones a Paulina Skoczek, sy’n paratoi ar gyfer Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK LIVE .”

“Mae hyn yn ganlyniad anhygoel i Dîm y DU a’r wlad gyfan,” meddai Dr Neil Bentley, Prif Weithredwr WorldSkills UK. “Roeddem yn anelu at safle deg uchaf ac fe’i cawsom! Y pobl ifanc disglair hyn – yn hyfforddi a pharatoi i fod ymhlith y gorau oll ar draws Ewrop –yw cenhedlaeth newydd perfformwyr gorau’r DU.

“Roedd Bwdapest yn brawf litmws i weld sut y gallai’r DU wneud pan adawn yr Undeb Ewropeaidd y flwyddyn nesaf. Cawsom ganlyniad rhyfeddol a gweithiodd y tîm yn anhygoel o galed, ond allwn ddim bod yn hunanfodlon. Mae gwledydd eraill ar draws Ewrop yn buddsoddi’n drwm mewn datblygu sgiliau ac mae angen i ni sicrhau nad ydym yn syrthio ar ôl.

Mae’n rhaid i lywodraethau, cyflogwyr a’r sector addysg gofleidio’r llwyddiant hwn a defnyddio’r egni a momentwm a gynhyrchwyd yma i ysbrydoli i helpu hybu twf economaidd a chynhyrchiant.”

Canlyniadau llawn:

  • Aur, Therapi Harddwch (Holly-Mae Cotterall, Reds Hair Company)
  • Pres, Mechatronics (Danny Slater a Jack Dakin, Toyota Manufacturing UK)
  • Pres, Peirianneg Fecanyddol CAD (Ross Megahy, New College Lanarkshire)
  • Pres, Trin Gwallt (Gavin Jon Kyte, Reds Hair Company)
  • Medaliwn, Arbenigwyr ICT (Cameron Barr, Nescot a Shane Carpenter, Nescot a BAE Systems)
  • Medaliwn, Coginio(Nicolle Finnie, City of Glasgow College)
  • Medaliwn, Trin Blodau (Elizabeth Newcombe, Guildford College of Further and Higher Education a Rhubarb and Bramley)
  • Medaliwn, Weldio (Scott Kerr, Coleg Menai a PFS)
  • Medaliwn, Plymwaith a Gwresogi (Matthew Barton, Kendall College a WE Barton)
  • Medaliwn, Gwasanaethau Tŷ Bwyta (Collette Gorvett, Coleg Gŵyr Abertawe a’r Ritz)
  • Medaliwn, Gwaith Saer Coed (Christopher Caine, Coleg Sir Benfro a DH Carpentry and Joinery)

DIWEDD

Nodiadau i Olygyddion:

Ynglŷn â WorldSkills UK

Mae WorldSkills UK yn bartneriaeth rhwng busnes, addysg a llywodraethau.  Rydym yn gweithio i sbarduno datblygu sgiliau pobl ifanc o safonau cenedlaethol i rai byd eang. Rydym yn creu cenhedlaeth newydd o gyflawnwyr uchel sy’n rhoi min cystadleuol i gyflogwyr y DU.

Am 65 mlynedd, mae WorldSkills UK wedi bod aelod blaenllaw yn WorldSkills International. Mae’r mudiad byd eang hwn yn dod â 78 gwlad ynghyd i drefnu’r ‘gemau Olympaidd sgiliau’ pob dwy flynedd. Mae gennym enw da am lwyddiant ac wedi bod yn y deg uchaf yn y meincnod WorldSkills byd eang am y ddeng mlynedd diwethaf. 

Rydym yn helpu pobl ifanc i feddwl am eu dyfodol wrth ddarparu digwyddiadau gyrfa profiadol ac yn defnyddio modelau rôl sy’n cyflawni’n uchel i ysbrydoli eraill i ddilyn yn ôl eu traed. Ein prif ddigwyddiad, WorldSkills UK LIVE, yw digwyddiad sgiliau, prentisiaeth a gyrfaoedd mwyaf y genedl.

Am ragor o wybodaeth ewch i www.worldskillsuk.org

Yn EuroSkills Bwdapest 2018, cystadlodd 22 aelod o Dîm y DU mewn 19 o sgiliau.