Skip to main content
Cyflwyno Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti

Cyflwyno Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti – Llunio’r Dyfodol

Mae Ysgol Fusnes Plas Sgeti wedi cyhoeddi ei bod yn ffurfio Bwrdd Cynghori – ffigurau allweddol o fyd diwydiant a fydd yn helpu i lunio dyfodol addysg a hyfforddiant ar draws De Cymru a thu hwnt.

Yn ddiweddar, gyda chymorth Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi trawsnewid yr adeilad Sioraidd annwyl yn Ysgol Fusnes gyfoes.

Yn ogystal â bod yn gartref i amrywiaeth o raglenni proffesiynol, rheolaeth a gradd, bydd Ysgol Fusnes Plas Sgeti hefyd yn cynnal digwyddiadau hyfforddi nodedig lle bydd academyddion, capteiniaid diwydiant a phersonoliaethau chwaraeon blaenllaw yn ysbrydoli busnesau ac unigolion.

Bydd yr Ysgol Busnes hefyd yn ceisio cyflwyno cysyniadau rheolaeth ac arweinyddiaeth i’w holl fyfyrwyr, gan roi modd iddynt fod yn arweinwyr ysbrydoledig y dyfodol.

“Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti a fydd yn helpu Coleg Gŵyr Abertawe i ddeall anghenion cyflogwyr ymhellach, a chryfhau ein cysylltiadau â diwydiannau allweddol. Bydd y Bwrdd yn helpu i sicrhau ein bod ni’n darparu’r sgiliau cywir ar gyfer nawr ac yn y dyfodol,” dywedodd y Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Paul Kift.

“Ein nod strategol allweddol fel Bwrdd yw darparu cwricwlwm blaengar dan arweiniad cyflogwyr sy’n cefnogi datblygiad economaidd, ac sy’n cyd-fynd â blaenoriaethau rhanbarthol a Chymreig.”

“Bydd gan aelodau’r Bwrdd lais mawr o ran siapio’r sgiliau busnes sydd ar gael ar draws y rhanbarth, a fydd o fudd i ddysgwyr a staff y Coleg tra hefyd yn creu cyflenwad o dalent i sefydliadau. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu ffyniant a chynhyrchiant y gymuned fusnes ehangach. Gyda’n gilydd, gallwn ni hefyd greu atebion sgiliau a fydd yn cynorthwyo Bargen Ddinesig Bae Abertawe – gan alluogi adfywio, datblygiad a thwf economaidd.”

Aelodau Bwrdd Cynghori Ysgol Fusnes Plas Sgeti yw:

  • Cadeirydd - Chris Foxall, Cyfarwyddwr Cyllid Riversimple a Chadeirydd Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Deb Bowen-Rees, Cadeirydd Cangen De-orllewin Cymru, IoD, cyn Brif Swyddog Gweithredol Maes Awyr Caerdydd, a Chyfarwyddwr Anweithredol presennol Awdurdod Porthladd Aberdaugleddau, NED Dŵr Cymru ac Ymddiriedolwr Theatr Hijinx
  • Ian Price, Cyfarwyddwr Cymru, CBI
  • Lucie Thomas, Cyfarwyddwr Denu a Datblygu Talent, Cymdeithas Tai Pobl
  • Adrian Sutton, Prif Swyddog Gweithredol, Vortex IoT
  • Lucy Cohen, Cyd-sylfaenydd Mazuma, ac Aelod Bwrdd Strategaeth Economaidd Bargen Ddinesig Bae Abertawe
  • Tony Roberts, Pennaeth Busnes Rhanbarthol yng Nghymru, Vodafone
  • Adrian Chard, Rheolwr Adnoddau Dynol Strategol a Datblygiad Sefydliadol, Cyngor Abertawe
  • Louise Harris, Prif Swyddog Gweithredol, Tramshed Tech
  • Lisa Mart, Rheolwr Cyffredinol, Arena Abertawe/Ambassador Theatre Group
  • Alison Orrells, Rheolwr Gyfarwyddwr a Phrif Swyddog Gweithredol, The Safety Letterbox Company Ltd
  • Michael Kavanagh, Cyfarwyddwr Datblygu, Short Bros Homes
  • Matt Wintle, Pennaeth Dysgu a Datblygu, Admiral.

“Mae’n wych gweld ailddatblygiad rhagorol Plas Sgeti yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol fel cartref Ysgol Fusnes Plas Sgeti,” dywedodd Chris Foxall. “Dwi’n falch iawn o fod yn cadeirio bwrdd cynghori’r ysgol fusnes sy’n cynnwys rhai o’r cyflogwyr lleol ac arweinwyr busnes gorau yn Ninas-ranbarth Bae Abertawe.

“Wrth i’r marchnadoedd a’r economi barhau i newid, mae’r galwadau ar ein rheolwyr busnes a’n harweinwyr yn gynyddol heriol a chymhleth. Mae’n bwysig bod gofynion busnesau’n helpu i lywio’r ddarpariaeth sgiliau a hyfforddiant sy’n cael ei datblygu gan ein partneriaid addysg fel y gall busnesau aros yn gystadleuol a chyflawni unrhyw dwf posibl.

“Mae Dinas-ranbarth Bae Abertawe yn un o’r lleoedd gorau ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu a buddsoddi ar gyfer y dyfodol ac, yn amlwg, y buddsoddiad gorau y gall unrhyw gwmni ei wneud yw’r buddsoddiad yn ei bobl. Mae Coleg Gŵyr Abertawe am wneud yn siŵr ei fod yn cynnig cyrsiau sy’n diogelu’r buddsoddiadau hynny ac, ar yr un pryd, yn rhoi’r cyfle gorau i’w fyfyrwyr o gael gyrfa lwyddiannus mewn busnes a rheolaeth.”

“Dwi wrth fy modd ein bod ni, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, yn gallu sicrhau bod y cyfleusterau rhagorol hyn yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti ar gael i bob un o’n myfyrwyr,” dywedodd Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Mark Jones. “A nawr, gyda chymorth ein Bwrdd Cynghori newydd, gallwn ni ddechrau cael effaith wirioneddol yn y maes allweddol hwn ar gyfer pob busnes.”