Skip to main content
Joanna Page

Cadw mewn cysylltiad â Choleg Gŵyr Abertawe

Mae trysor cudd o dalentau, arloesedd, ac atgofion cyffredin yn gorwedd yng nghanol cymuned fywiog Coleg Gŵyr Abertawe.

Ers degawdau, mae’r sefydliad uchel ei barch hwn wedi helpu i wireddu breuddwydion, gan feithrin myfyrwyr di-ri ar eu llwybr i lwyddiant. Nawr, wrth i Goleg Gŵyr Abertawe symud yn hyderus i’r dyfodol, mae’n ceisio ailgysylltu â’i rwydwaith amhrisiadwy o gyn-fyfyrwyr.

Mae pob cyn-fyfyriwr yn destament i etifeddiaeth y Coleg, yn ymgorfforiad byw o’i ymrwymiad parhaus i ragoriaeth mewn addysg a dysgu gydol oes. O bobl fusnes i artistiaid rhyngwladol, enwogion rygbi i gogyddion enwog, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi llunio unigolion sy’n cael effaith fawr ym mhob cornel o’r byd.

Mae rhai o gyn-fyfyrwyr nodedig y Coleg yn cynnwys chwaraewyr rygbi a phersonoliaethau chwaraeon o Gymru, fel Leigh Halfpenny, Jazz Carlin, Justin Tipuric, Alex Callender a Niamh Terry. A pherfformwyr rhyngwladol enwog, fel Joanna Page a Katherine Jenkins.

Y llynedd, dyfarnwyd Cymrodoriaeth y Coleg i Joanna Page yn Seremoni Raddio 2022, gan Gadeirydd Corff Llywodraethol y Coleg, Meirion Howells, i gydnabod ei chyfraniad eithriadol i ffilm, theatr a theledu ac am godi proffil Abertawe yn barhaus ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.

Ymhlith cyn-fyfyrwyr y Coleg, mae cogyddion clodwiw hefyd, fel Adam Bannister, cogydd ‘Slice’ a seren y Great British Menu, a Jonathan Woolway, cyn-gogydd-gyfarwyddwr y grŵp bwytai enwog St John’s yn Llundain, sydd ar fin agor bwyty yn ei dref enedigol sef Abertawe, ar ôl 15 mlynedd yn gweithio yn y bwytai eiconig.

Astudiodd Jonathan Woolway gyrsiau Safon Uwch Hanes, Saesneg a Chymdeithaseg yng Ngholeg Gorseinon ac mae’n dweud: “Roedd Safon Uwch wedi rhoi llawer o sgiliau trosglwyddadwy i mi ac roedd wedi fy mharatoi’n dda ar gyfer fy ngyrfa fel cogydd. Trwy astudio - a gyda chymorth fy nhiwtoriaid yng Ngholeg Gorseinon - dysgais i ddisgyblaeth, ymrwymiad, cyfathrebu, sut i flaenoriaethu, sut i weithio a rhagori dan bwysau, sut i barchu ac anrhydeddu terfynau amser pwysig a sut i weithio’n barchus mewn amgylchedd grŵp.”

Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe wahodd ein cyn-fyfyrwyr i ymuno â Jonathan a llawer o gyn-fyfyrwyr nodedig eraill i fynd ar hyd y lôn atgofion, gan rannu eu straeon, eu cyflawniadau a’u gwybodaeth.

Gyda’n gilydd, ein nod yw cryfhau’r cysylltiadau sy’n ein clymu at ein gwreiddiau ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o arweinwyr. Megis dechrau yw hanes enwog Coleg Gŵyr Abertawe, ac mae eich stori yn rhan annatod o’i naratif bywiog. Ymunwch â ni ar y daith gyffrous hon o ailddarganfod, wrth i ni ddathlu’r gorffennol, cofleidio’r presennol, a llunio’r dyfodol gyda’n gilydd.

Byddwch yn rhan o’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr

Felly os ydych wedi graddio o Goleg Gŵyr Abertawe (neu’r sefydliadau a’i rhagflaenodd, Coleg Abertawe neu Goleg Gorseinon), byddem wrth ein bodd yn ailgysylltu â chi a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ddigwyddiadau a chyflawniadau.

Trwy gysylltu â ni, byddwch yn cael y cyfle i sefydlu cyfleoedd rhwydweithio amhrisiadwy a chysylltiadau swydd, cael mynediad i fentoriaeth, mynychu digwyddiadau unigryw a chael mynediad at amrywiaeth o adnoddau gyrfa. Mae ymuno â rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr yn meithrin ymdeimlad o berthyn ac yn caniatáu i chi gael yr wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau a digwyddiadau’r diwydiant. Gall y cysylltiadau hyn fod yn werthfawr ar gyfer twf personol a phroffesiynol trwy gydol eich bywyd.

Beth bynnag rydych yn ei wneud nawr, ble bynnag rydych yn y byd, cadwch mewn cysylltiad a chymerwch ran!

Mae Coleg Gŵyr Abertawe hefyd yn cynnal cystadleuaeth i’r rhai sy’n ymuno â’n rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr cyn 25 Medi gyda’r cyfle i ennill Cerdyn Rhodd Amazon gwerth £100. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw 1) Ychwanegu Coleg Gŵyr Abertawe at eich LinkedIn Education (os oes gennych broffil LinkedIn) 2) Tanysgrifiwch i’n Rhwydwaith o Gyn-fyfyrwyr yma