Coleg Gŵyr Abertawe – Byddwch yn rhan ohono!


Diweddarwyd 28/02/2022

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn goleg arobryn sy’n darparu addysg a hyfforddiant i dros 4,500 o ddysgwyr amser llawn a 10,000 o ddysgwyr rhan-amser ar draws ardal Abertawe a thu hwnt.

Mae’r Coleg yn cynnig bron 40 o ddewisiadau Safon Uwch gwahanol ac amrywiaeth eang o feysydd pwnc galwedigaethol i ymadawyr ysgol, yn ogystal â phrentisiaethau a chyrsiau AU. Mae hefyd yn darparu hyfforddiant busnes-i-fusnes i unigolion a chyflogwyr ar draws yr ardal, yn ogystal â chymorth cyflogadwyedd wedi’i deilwra.

Mae’r Coleg nawr yn edrych am bobl dalentog ac ymroddedig i ymuno â’i Fwrdd y Gorfforaeth.

Fel Llywodraethwr Coleg Gŵyr Abertawe, byddech chi’n helpu’r sefydlaid i weithio tuag at ei nodau tymor byr a’i amcanion strategol hirdymor.

Byddech yn chwarae rhan weithredol ym mywyd y Coleg, gydag opsiwn i fynd i ddigwyddiadau amrywiol drwy gydol y flwyddyn academaidd megis y gwobrau blynyddol, nosweithiau agored a seremoni graddio AU, lle gallech dreulio amser gyda myfyrwyr a staff y Coleg.

Mae rôl y Llywodraethwr, sydd yn swydd wirfoddol, yn gofyn am ymrwymiad amser o tua pedair neu bum awr y mis* h.y. adolygu adroddiadau a mynd i gyfarfodydd. Mae llawer o waith y Bwrdd wedi symud ar-lein yn ddiweddar ac mae aelodau yn cael cymorth, gan gynnwys offer, i gynyddu eu cyfraniad cymaint ag sy’n bosib.

Maer Coleg angen i bob rhan o’r gymuned gyfranogi, yn enwedig y rhai sy’n cael eu cynrychioli ymhlith ei ddysgwyr ond sy’n cael eu tangynrychioli ar y Bwrdd ar hyn o bryd.

Ar yr adeg hon, mae’r Coleg yn gobeithio penodi Llywodraethwyr â sgiliau neu brofiad mewn Adnoddau Dynol neu archwilio, neu a fydd yn helpu Bwrdd y Gorfforaeth i fod yn fwy cynrychioladol o’n myfyrwyr a’r cymunedau a wasanaethwn.

Y prif feini prawf yw ymroddiad a diddordeb mewn addysg bellach a sut y gall wella bywydau pobl ifanc.

Mae aelodau Bwrdd y Coleg wir yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n rôl heriol a diddorol a fydd yn rhoi cyfle i chi gymryd rhan a gwneud cyfraniad cadarnhaol i’ch cymuned. 

*Os na allwch ymrwymo i’r amser hwn, gallech fod yn aelod cyfetholedig i un o bwyllgorau’r Bwrdd (mae wyth ohonynt ar hyn o bryd, sy’n cwmpasu amrywiaeth o weithgareddau). Byddai hyn yn cynnwys mynd i bedwar i bum cyfarfod y flwyddyn.

Os hoffech wybod rhagor am y rôl hon, cysylltwch â Sharon Barron, Clerc y Bwrdd yn Sharon.barron@coleggwyrabertawe.ac.uk neu drwy ffonio 01792 284222. Mae opsiwn i chi sgwrsio ag aelod presennol o’r Bwrdd hefyd os dymunwch.

Llun wedi'i dynnu cyn Covid