Skip to main content

Coleg Gŵyr Abertawe - partner addysgol cyntaf Cymdeithas Ffasiwn a Thecstilau’r DU yng Nghymru

Roedd y prentisiaid ffasiwn a thecstilau cyntaf yng Nghymru wedi llwyddo i ennill eu cymhwyster y llynedd yng Ngholeg Gower Abertawe, gyda mwy ohonynt i ddilyn eleni. Y Coleg yw’r unig ddarparwr yng Nghymru gyfan a gymeradwywyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Prentisiaethau Ffasiwn a Thecstilau lefelau 2-4, ac yn ddiweddar daeth yn bartner addysgol cyntaf Cymdeithas Ffasiwn a Thecstilau’r DU (UKFT) yng Nghymru.

UKFT yw’r rhwydwaith fwyaf ar gyfer cwmnïau ffasiwn a thecstilau yn y DU, gan ddod â dylunwyr, gweithgynhyrchwyr, cyflenwyr, asiantiaid ac adwerthwyr ynghyd i hyrwyddo eu busnesau a’r diwydiant yn y DU ac yn rhyngwladol. Maen nhw’n cynrychioli holl gadwyn gyflenwi ffasiwn a thecstilau’r DU, o nyddu, gwehyddu a gwau, i’r brigdrawst. Yn ogystal, maen nhw’n cyhoeddi’r fframweithiau prentisiaeth Ffasiwn a Thecstilau i Gymru.

“Rydyn ni’n falch nawr bod gyda ni ddarpariaeth prentisiaeth ffasiwn a thecstilau yng Nghymru,” dywedodd John West, Cyfarwyddwr Sgiliau a Hyfforddiant yn UKFT, “- gan roi modd i unigolion ddilyn gyrfaoedd cyffrous a chreadigol yn ein diwydiant, a rhoi modd i fusnesau gael mynediad i’r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol. ”

Sefydlodd Coleg Gŵyr Abertawe eu Canolfan Ffasiwn a Thecstilau yn 2016, gan ddarparu ar gyfer amrywiaeth o gyrsiau amser llawn a rhan- amser gydag offer modern o’r radd flaenaf fel torrwr laser, argraffydd tecstilau digidol, torrwr patrwm Gerber, offer a meddalwedd graddio, peiriant brodwaith diwydiannol a meddalwedd dylunio Lectra. Mae gan dîm addysgu Ffasiwn a Thecstilau brofiad helaeth yn y diwydiant, ar ôl gweithio i gwmnïau o fri rhyngwladol fel Anna Sholtz, Victoria’s Secret, Arcadia Group, ASOS, Peacocks a Saville Row.

Mae’r fframwaith Prentisiaeth Ffasiwn a Thecstilau yn cefnogi pob rhan o’r sector a gellir ei fabwysiadu ar gyfer busnes sy’n amrywio o weithgynhyrchu dillad i glustogwaith ceir, celfi mewnol i gynhyrchion meddygol wedi’u gwnïo.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cynnig rhaglen gynhwysfawr o ddigwyddiadau ar gyfer Wythnos Prentisiaethau Cymru i helpu cyflogwyr a phobl ifanc i wneud dewisiadau gwybodus am eu hopsiynau recriwtio a chyflogaeth. Os hoffech ddilyn Prentisiaeth Ffasiwn a Thecstilau neu logi prentis Ffasiwn a Thecstilau, bydd yr Arweinydd Cwricwlwm, Elinor Franklin, yn cynnal sesiwn holi ac ateb fyw ddydd Gwener 12 Chwefror am 10am. Mae manylion ar gael yma.