Skip to main content
Coleg Gŵyr Abertawe yn Noddi  Digwyddiad Pro Cymru

Coleg Gŵyr Abertawe yn Noddi Digwyddiad Pro Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gael ei enwi fel noddwr allweddol digwyddiad Pro Cymru, Taith Syrffio Pro UKPSA.

Mae’r digwyddiad hwn yn rhan o Gyfres Nerf Clash of the Groms 2018, sy'n ceisio annog datblygiad syrffwyr iau Cymru.

Cynhelir Pro Cymru ddydd Sadwrn 13 a dydd Sul 14 Hydref yn Rest Bay, Porthcawl, ac mae’n bwriadu denu’r syrffwyr gorau o bob cwr o’r DU.

Dywedodd Dave Reed, Cyfarwyddwr UKPSA: “Hoffwn i ddiolch i Goleg Gŵyr Abertawe am eu cefnogaeth. Dyma'r unig ddigwyddiad iau ar y daith yng Nghymru a bydd yn helpu i annog datblygiad y gamp ar bob lefel.”

Yn siarad am ran Coleg Gŵyr Abertawe yn y digwyddiad, dywedodd Deon y Gyfadran, Ruth Prosser: “Rydyn ni’n falch o fod yn noddi’r digwyddiad cenedlaethol hwn ac mae’n gyfle gwych i gefnogi syrffwyr ifanc yng Nghymru.

“Mae rhai o'r syrffwyr hyn wedi astudio gyda ni yn y Coleg fel rhan o'n rhaglen academi chwaraeon elit, yn enwedig Patrick Langdon-Dark sydd wedi ennill llawer o gystadlaethau syrffio yn y DU ac a gafodd wobr am ei Lwyddiant Eithriadol mewn Chwaraeon yn seremoni wobrwyo flynyddol y Coleg ym mis Mehefin 2018.

“Rydyn ni’n dymuno pob llwyddiant i'r holl gystadleuwyr ac rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at y digwyddiad.”

Cyfres Nerf Clash of the Groms:

Bydd pob digwyddiad yn denu’r syrffwyr ifanc gorau o bob cwr o’r DU i gystadlu mewn wyth isadran: Bechgyn dan 12, Merched dan 12, Merched dan 14, Bechgyn dan 14, Merched dan 16, Bechgyn dan 16, Bechgyn dan 18 a Bechgyn dan 18 oed.

Bydd y daith yn ceisio hyrwyddo syrffio blaengar a bydd y meini prawf beirniadu yn canolbwyntio ar ansawdd y symudiadau. Bydd y tabl yn cyfrif y ddwy don orau a bydd y don sy’n sgorio uchaf yn cael ei dyblu.

Cyfres Nerf Clash of the Groms:

  • Surfaced Pro Watergate Bay: 12-13 Mai
  • Pencampwriaethau Syrffio Ysgolion y DU Fistral Beach: 10-11 Gorffennaf
  • Pro Cymru a noddir gan Goleg Gŵyr Abertawe, Porthcawl: 13-14 Hydref
  • Gŵyl Syrffio Ucheldiroedd yr Alban, Thurso: 17-19 Hydref
  • Rownd Derfynol Clash of the Groms, Fistral Beach: 26-27 Hydref

Mae manylion pob digwyddiad a’r gyfres i’w gweld yn www.ukprosurf.com

DIWEDD