Coleg Gŵyr Abertawe - Coleg Hyfforddi Weldiwr Cymeradwywyd gan TWI CL cyntaf yng Nghymru


Diweddarwyd 10/06/2021

Coleg Gŵyr Abertawe yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i gael ein gymeradwyo fel Coleg Hyfforddi Weldiwr TWI CL gan TWI Certification Ltd; mae tiwtoriaid bellach wedi cael ardystiad TWI i arolygu ac archwilio darnau prawf ac yn gallu cyflwyno hyfforddiant weldio cod TWI.

Mae’r Coleg bellach yn aelod balch o’r Cynllun Ardystio ar gyfer Sefydliadau Hyfforddi Weldwyr ac mae hefyd wedi buddsoddi mewn offer newydd, gan sicrhau ei fod ar y blaen ym maes weldio. 

“Dwi mor falch o’n hachrediad TWI,” dywedodd Denise Thomas, Rheolwr Maes Dysgu Peirianneg, “Mae’n brawf o ymrwymiad ac arloesedd ein tîm ein bod ni wedi sicrhau’r cyfle hwn, gan roi mynediad i adnoddau eithriadol a chymwysterau a gydnabyddir gan y diwydiant ar gyfer dysgwyr a chyflogwyr.” 

Ar hyn o bryd mae’r Coleg yn addysgu cyrsiau Weldio Lefel 1-3 (trwy City & Guilds), 4265 a Phrentisiaethau mewn Weldio ac mae opsiwn i ddilyn BS4872 ar ôl eu cwblhau. 

Mae amrywiaeth o gyrsiau weldio cod hefyd yn cael eu cynnig gan gynnwys ASME 1X, EN287 ac EN906, wedi’u teilwra i anghenion sgiliau presennol ar ôl asesiad. Yn ogystal, mae cwrs Arolygu Gweledol CSWIP 3.0 yn cael ei gynnig yn ystod y dydd a’r nos, gan ddefnyddio cyfleusterau’r Coleg. 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn croesawu cyfraniad gan fusnesau lleol sy’n cyflogi weldwyr neu sy’n ystyried cyflwyno sgiliau weldio i’w busnes. Byddwn ni'n cynnal Fforwm Dysgwyr ar-lein ar nos Lun 28 Mehefin, 6.30pm Fforwm Cyflogwyr ar-leindydd Mawrth 29 Mehefin am 9am.

Os hoffech roi’ch barn am addysgu’r cwricwlwm, dulliau a lefelau yn ein fforwm, neu ymweld â’r Coleg i weld y cyfleusterau newydd, e-bostiwch carl.phillips@gcs.ac.uk neu ffoniwch 01792 284000. 

Tags:
TWI