Skip to main content
Coleg yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn

Coleg yn cefnogi ymgyrch y Rhuban Gwyn

Fel gweithred o gefnogaeth tuag at ymgyrch y Rhuban Gwyn, mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio polisi newydd sbon sy’n ymwneud â cham-drin domestig.

Mae Cam-drin Domestig yn drosedd sy’n gallu bod yn gudd ac yn rhywbeth nad yw’n cael ei adrodd i’r Heddlu yn aml, gan ei fod yn digwydd o fewn y cartref. Ar gyfartaledd, mae dau o bobl yn cael eu lladd yng Nghymru a Lloegr* yn wythnosol gan bartneriaid neu cyn partneriaid. Mae’r heddlu Yng Nghymru a Lloegr yn derbyn rhyw 100 o alwadau'r awr ar gyfartaledd am faterion sy’n ymwneud â Cham-drin Domestig.**

Soniodd Ali Morris, sef Cydgysylltydd Cyngor Abertawe dros Drais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol am yr ystod eang o gymorth a chefnogaeth sydd ar gael ar gyfer pobl sy’n dioddef mewn perthynas ymosodol.

Ymunodd Nick Brazil, y Dirprwy Bennaeth, Paul Kift, Cyfarwyddwr Sgiliau a Datblygu Busnes, Mike Glover, Cyfarwyddwr Cyllid â’r Pennaeth Mark Jones er mwyn datgan eu cefnogaeth yn swyddogol at ymgyrch y Rhuban Gwyn ac er mwyn lansio’r polisi newydd.

Yn bresennol hefyd roedd myfyrwyr Celf Lefel 2 o Gampws Llwyn y Bryn sydd, ar ôl trafod materion trais domestig mewn sesiwn tiwtorial, wedi creu gwaith celf gwreiddiol i gefnogi’r digwyddiad lansio.

“Mae’n bwysig i ni godi ymwybyddiaeth y polisi pwysig hwn ac i hysbysu’n staff, boed yn ddynion neu’n fenywod, ein bod yn gyflogwr sydd yn gallu cynnig cymorth i unigolion sy’n dioddef mewn perthynas ymosodol,” dywedodd Sarah King, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol.

*ONS, 2018 

** HMIC, 2015

Lluniau: Adrian White