Skip to main content

Coleg yn cryfhau ffocws busnes drwy ymuno â Siambr Fasnach De Cymru

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi ei fod bellach yn aelod o Siambr Fasnach De Cymru.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae rhaglenni dysgu seiliedig ar waith y Coleg wedi mynd o nerth i nerth, gan weithio’n agos gyda llawer o fusnesau ar hyd a lled y y DU. Mae twf ei waith busnes-i-fusnes wedi bod yn ffactor allweddol wrth sefydlu ei hun fel un o’r colegau mwyaf blaenllaw yng Nghymru.

Mae’r Coleg eisoes wedi datblygu partneriaethau cryf gyda sefydliadau, gan gynnwys TATA Steel, FRF Motors ac HMT Ysbyty Sancta Maria. Gydag aelodaeth o dros 500 o gwmnïau yn y rhanbarth, mae’r Siambr yn darparu llwyfan gwych i’r Coleg barhau i feithrin cysylltiadau â rhai o’r busnesau mwyaf parchus ledled Cymru.

Dywedodd Stuart Davies, Ymgynghorydd Datblygu Busnes yn y Coleg, “Rydyn ni’n ymfalchïo yn y cymorth a roddwn i gyflogwyr wrth gyflawni eu strategaethau dysgu. O ystyried ein bod ni’n gweithio gyda chynifer o fusnesau yng Nghymru, mae ymuno â chorff mor barchus â Siambr Fasnach De Cymru yn gwneud synnwyr perffaith wrth i ni geisio ehangu ein hymgysylltiad a bod yn rhan o’r llais dros fusnes yng Nghymru. ”

Ychwanegodd Heather Myers, Prif Swyddog Gweithredol Siambr Fasnach De Cymru, “Mae’n bleser gennym groesawu Coleg Gŵyr Abertawe i Siambr Fasnach De a Chanolbarth Cymru ac rydyn ni’n edrych ymlaen at eu cefnogi gyda’r gwaith anhygoel y maen nhw’n ei wneud yn eu rhanbarth a fydd o fudd i’r aelodau ac a fydd yn eu cyflwyno i farchnadoedd a chysylltiadau newydd.” 

Llun: Siambr Fasnach De Cymru