Skip to main content
Coleg yn dathlu medalwyr

Coleg yn dathlu medalwyr

Mae 23 o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill medalau fel rhan o’r set ddiweddar o ddigwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru.

Mae CystadleuaethSgiliauCymru yn cynnwys cyfres o gystadlaethau sgiliau lleol, sydd wedi’u halinio â WorldSkills ac anghenion economi Cymru, wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru ac sy’n cael eu rhedeg gan rwydwaith pwrpasol o golegau, darparwyr dysgu seiliedig ar waith a sefydliadau dan arweiniad cyflogwyr.

“Mae hwn yn ganlyniad gwych i’n myfyrwyr ac yn set drawiadol iawn o fedalau i Goleg Gŵyr Abertawe,” dywedodd y Prifathro Mark Jones. “Gweithiodd y myfyrwyr hyn yn galed iawn i baratoi ar gyfer eu digwyddiadau CystadleuaethSgiliauCymru ac rydw i wrth fy modd bod eu sgiliau a’u doniau galwedigaethol wedi cael eu gwobrwyo mor helaeth gan y panel beirniadu.”

“Mae cymaint i fod yn falch ohono yma, o’r ffaith ein bod ni wedi ennill mwy o fedalau Aur nag unrhyw Goleg arall - mewn 10 categori gwahanol – i’r amrywiaeth eang o feysydd cwricwlwm sydd wedi cefnogi’r cystadlaethau hyn. Mae’r perfformiad gan ein myfyrwyr galwedigaethol o safon uchel ac yn wir ategu cyflawniadau ein myfyrwyr Safon Uwch ac yn dangos y lefel uchel o berfformiad ardderchog cyson ar draws y Coleg.

“Llongyfarchiadau a diolch i bawb a gymerodd ran - y myfyrwyr a’r staff. Am gyflawniad rhagorol!

Aur:
David Kennedy - Electroneg Ddiwydiannol
Llewellyn Bowmer - Sgiliau Cynhwysol: Gwasanaethau Bwyty
Connor Trehar - Gwasanaethau Bwyty
Megan Tucker - Ymarferydd Therapi Harddwch (Corff)
Karolis Lisauskas - Diogelwch Rhwydweithiau TG
Alannah Thorne - Cynhyrchu Fideo Digidol
Jasmine Eagles - Cerddoriaeth Boblogaidd
Dylan Hodgon - Cerddoriaeth Boblogaidd
Alexa Jones-Young - Cerddoriaeth Boblogaidd
Matthew Thirwell - Cerddoriaeth Boblogaidd
Eleri Van Block - Cerddoriaeth Boblogaidd
Wiktoria Gebka - Technoleg Ffasiwn
Leah Jones - Marchnata Gweledol
Callum East - Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau
Nathan Phillips - Sgiliau Cynhwysol: Y Cyfryngau

Arian:
William Sabatia - Gwaith Coed
Marcus Drennan - Electroneg Ddiwydiannol
James Frew - Diogelwch Rhwydweithiau TG

Efydd:
Erin Doek - Gwyddor Fforensig
Leon Harris - Gwyddor Fforensig
Nathan Akerman - Diogelwch Rhwydweithiau TG
Joshua James - Sgiliau Codio
Laurie Pennock - Dylunio Graffig