Skip to main content
Coleg yn lansio Ystafell Arloesedd Addysg Lego

Coleg yn lansio Ystafell Arloesedd Addysg Lego

Mae’r drysau Ystafell Arloesedd Addysg Lego newydd sbon Coleg Gŵyr Abertawe wedi agor yn swyddogol.

Dyma’r unig ystafell addysgol o’i math yn yr ardal leol, a bydd y cyfleuster yn cael ei ddefnyddio gan fyfyrwyr, disgyblion ysgol a chyflogwyr i wella eu sgiliau digidol gan ddefnyddio Lego.

Ymhlith y defnyddwyr cyntaf roedd staff o dîm Gwybodeg Bwrdd Iechyd PABM a dreuliodd ddiwrnod diddorol ar Gampws Tycoch yn defnyddio Lego i hwyluso ymarferion datrys problemau ac adeiladu tîm. Roedd y Lego a ddefnyddiwyd ar y diwrnod wedi amrywio o gitiau adeiladu syml i’r llwyfan caledwedd/meddalwedd Mindstorms mwy heriol.

Dechreuodd datblygiad yr Ystafell Lego, a ariannwyd gan Raglen Blaenoriaeth Sgiliau Llywodraeth Cymru, yn dilyn argymhelliad gan yr Athro Tom Crick, a benodwyd gan y Coleg i arwain y gwaith o ddatblygu sgiliau digidol ar draws yr ardal.

Yna, roedd y Coleg wedi gweithio mewn partneriaeth â The Big Learning Company, un o’r sefydliadau dysgu ac addysgu arweiniol yn y DU, i ddatblygu’r weledigaeth hon gyda Lego’n goruchwylio hyfforddiant arbenigol staff y Coleg i ddarparu gwersi’n cynnwys llythrennedd, rhifedd, datrys problemau, codio a roboteg.

“Bydd y math hwn o hyfforddiant yn rhoi sgiliau cyflogadwyedd allweddol a pherthnasol i’r dysgwyr a fydd o gymorth mawr iddyn nhw yn y gweithle,” dywedodd Rheolwr y Maes Dysgu Bruce Fellowes. “Rydyn ni’n llawn cyffro ynghylch y posibiliadau mae’r cyfleuster newydd hwn wedi eu hagor – nid yn unig annog pobl ifanc i STEM trwy ddefnyddio Lego, fformat y byddan nhw’n gyfforddus ac yn gyfarwydd ag ef, ond hefyd trwy greu mwy o gysylltiadau gyda chyflogwyr lleol sy’n gallu ei ddefnyddio fel canolfan asesu a hyfforddi.

“Yr hyn sy’n wirioneddol wych am y cyfleuster newydd hwn yw’r ffaith y gall dysgwyr ar bob lefel ei  ddefnyddio – o’r rhai sydd am wella eu sgiliau hanfodol megis rhifedd/llythrennedd i fyfyrwyr AU sydd am ddatblygu eu harbenigedd codio neu beirianneg.”

Lluniau: Adrian White