Skip to main content

Cricedwr coleg yn mynd i Awstralia

Mae seren criced addawol – a myfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe - Aneurin Donald ar ei ffordd i Awstralia ar ôl cael ei ddewis ar gyfer taith Rhaglen Datblygu Lloegr (EDP).

Mae Aneirin, myfyriwr Safon Uwch, wedi bod yn eithriadol o brysur oherwydd mae’n cydbwyso ei astudiaethau ag aelodaeth o Glwb Criced Sir Forgannwg. Yn gyntaf enillodd gontract datblygu gyda Morgannwg yn 2014 ac, yn ystod yr haf ‘na, cafodd ei ddewis ar gyfer tîm dan-19 Lloegr. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf mewn criced dosbarth cyntaf yng ngêm derfynol y tymor lle sgoriodd 59 yn erbyn Hampshire yn yr ail fatiad.

Mae hefyd wedi chwarae rôl allweddol ar gyfer tîm y Mwmbwls, a enillodd Uwch-Gynghrair De Cymru, a daeth yn gapten ar un o dimau dan-17 llwyddiannus iawn Lloegr. 

Roedd Aneurin hefyd yn gapten ar Siroedd Llai Cymru y tymor diwethaf – yn 17 oed, y chwaraewr ieuengaf erioed i wneud hynny.

Yn aelod o Academi Criced Coleg Gŵyr Abertawe, mae Aneurin wedi elwa llawer trwy gael mwy o fynediad i adnoddau yn ogystal â chymorth cyflenwol ac ariannol.

“Mae’r coleg bob amser wedi bod yn gefnogol i Aneurin ac rydyn ni wedi ei gefnogi yn llawn yn ei ddyheadau gyrfa, fel rhoi amser i ffwrdd iddo fe er mwyn hyfforddi gyda’r EDP,” dywedodd y darlithydd a Chyfarwyddwr Criced Mike O’Brien. “Mae’r EDP a Morgannwg yn rhoi pwyslais cryf ar baratoadau trylwyr ar gyfer gemau ac mae Aneirin wedi manteisio’n llawn ar y cymorth sydd ar gael yn y coleg. Rydyn ni’n dymuno’n dda iddo ar gyfer ei daith yn Awstralia a’r tymor newydd sydd i ddod gyda Morgannwg.”

“Heb os nac oni bai mae bod yn rhan o’r Academi Criced wedi rhoi cyfle i mi gyfuno astudio â’m hymrwymiadau criced” dywedodd Aneurin. “Mae cael lle yn fy amserlen er mwyn hyfforddi wedi bod yn werthfawr iawn. Mae cymorth Coleg Gŵyr Abertawe a’r Academi wedi rhoi modd i mi barhau i ddatblygu."