Skip to main content
Cydnabod athro cerddoriaeth ysbrydoledig

Cydnabod athro cerddoriaeth ysbrydoledig

Mae darlithydd Cerddoriaeth o Goleg Gŵyr Abertawe ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Athro y Flwyddyn Pearson.

Mae gan Jonathan Rogers, Arweinydd Cwricwlwm Cerddoriaeth Safon Uwch ar Gampws Gorseinon, gyfle gwirioneddol o ennill teitl Darlithydd AB y Flwyddyn.

Yn unigolyn medrus ac uchel ei barch ym maes Cerddoriaeth, mae Jon yn gwneud y mwyaf o’i gysylltiadau â sefydliadau megis Côr Ffilharmonig Abertawe (lle, fel arweinydd, sefydlodd ysgoloriaeth i gynnig cyfleoedd i fyfyrwyr berfformio darnau corawl mawr gyda cherddorfeydd) a Chôr Meibion Dyfnant, sy’n cynnig ystod eang o gyfleoedd i berfformwyr ifanc, gan ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o gerddorion.

Mae Jon wir yn hyrwyddo ymgysylltu a chyfoethogi cymunedol, a thrwy gydol y pandemig, mae e wedi gweithio’n ddi-baid i sicrhau bod myfyrwyr wedi parhau i gyrchu cyfleoedd ymarferol, er bod perfformiadau byw wedi derbyn ergyd anferth yn sgil y coronafeirws. 

Mae Jon yn ysbrydoli myfyrwyr ac yn gweithio’n ddiflino i oresgyn unrhyw heriau megis mynediad at gyllid, sy’n gallu atal myfyrwyr rhag mwynhau cyfleoedd cyfoethogi sydd, wrth gwrs, yn rhan hollbwysig o ddatblygiad eu sgiliau. I Jon, mae’r dysgwr yn rhan ganolog o bob peth mae e’n ei wneud, mae e’n hael iawn gyda’i amser y tu fewn a thu allan i’r ystafell ddosbarth ac mae e’n aml yn trefnu cyfarfodydd un i un gyda myfyrwyr er mwyn dod i’w hadnabod ac i ddysgu rhagor am eu gobeithion a’u breuddwydion.

Mae llawer o fyfyrwyr Jon wedi symud ymlaen i astudio mewn colegau cerdd arbenigol megis yr Academi Gerdd Frenhinol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

“Jon yw un o’r darlithwyr mwyaf dawnus, creadigol a deinamig i fi weithio gyda, erioed,” dywedodd Jenny Hill, Rheolwr Maes Dysgu. “Mae e wedi mynd i’r afael â phob her a wynebodd yn sgil Covid-19 er mwyn darparu’r addysg gorau posib i bob myfyriwr.

“Trwy ei rolau gyda HE+ ac Academi Seren, mae e’n hybu ardderchowgrwydd nid yn unig yn ein myfyrwyr ni, ond hefyd mewn ysgolion ledled Dinas a Sir Abertawe. Mae Jon hefyd yn rhan ganolog o strategaeth lles y Coleg, ac fe chwaraeodd rhan hollbwysig yn sefydlu’r côr saff, gan ddarparu amgylchedd cyfeillgar i staff o bob gallu cerddorol i fwynhau buddion cerddoriaeth a chanu.”

Mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn rhannu’r un farn am Jon:

“Mae Jon yn athro cerdd gwych a chefnogol sydd wedi fy helpu i fagu hyder fel perfformiwr… oni bai am Jon a’i wersi hyfforddi, fyddwn i ddim wedi derbyn ysgoloriaeth gan fy nghonservatoire dewis cyntaf. Mae e wedi gweithio’n galed gyda fi am ddwy flynedd i wella ansawdd fy llais a fy mhresenoldeb i fel perfformiwr, rwy’n hynod o ddiolchgar am ei gyngor…”

“Mae Jon yn ddarlithydd anhygoel, ymroddgar a chefnogol. Mae e’n angerddol am ein gweld yn llwydo… Mae Jon yn ein hysgogi i wneud y mwyaf o’n gallu ac mae e’n gallu gweld yr hyn y gallem fod, gan ganolbwyntio ar ein gallu presennol. Mae e’n creu fersiynau gorau posib ohonon ni, fel cerddorion a phobl.”

“Ers cychwyn y cyfnod rhyfedd hwn, mae Jon wedi bod yno i bob un ohonom. Mae e’n rhoi ein haddysg a’n lles yn gyntaf... Yn fy marn i, Jon yw un o’r darlithwyr gorau dwi erioed wedi ei gael… Fe wnaeth e fy ngwella i fel cerddor ac mae e wedi gwella fy nealltwriaeth o’r hyn rwy’n ei garu, a byddaf yn ddiolchgar am hyn am weddill fy oes.”

“Mae Jon yn addysgwr o’r radd flaenaf ac rwy’n hapus iawn ei fod ar restr fer Darlithydd AB y Flwyddyn,” meddai’r Pennaeth, Mark Jones. “Hyfryd yw darllen sylwadau ei fyfyrwyr a chlywed faint y maen nhw’n gwerthfawrogi ei ymroddiad a’i gefnogaeth yn ystod blwyddyn sydd wedi bod yn un heriol iawn. Dymunwn bob lwc i Jon ynghylch yr enwebiad cwbl haeddiannol hwn.” 

Lluniau: Sian Pearce Gordon