Skip to main content

Cyfleoedd di-ri i fyfyrwyr sgiliau byw’n annibynnol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio cyfres o interniaethau gwaith newydd gyda myfyrwyr yn yr adran sgiliau byw’n annibynnol (SBA), gan weithio hyd at bum diwrnod yr wythnos mewn sectorau amrywiol yn Ysbyty Treforys a’r gymuned ehangach.

Mae cyflogwyr adnabyddus wedi cydnabod y myfyrywr fel cyfranwyr gwerthfawr yn y gweithle ac mae’r darpar bartneriaethau hyn hefyd yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) gael profiad gwaith i’w roi ar eu CVs a dod o hyd i gyflogaeth am dâl.

Mae Ysbyty Treforys a busnesau lleol yn hyrwyddo manteision gweithio gyda myfyrwyr sydd ag ADY yng Ngholeg Gŵyr Abertawe. Dywedodd rheolwr arlwyo yr ysbyty, Jessica James, sut y “gallai Sophie godi cywilydd ar rai pobl gan fod ei moeseg gwaith yma mor uchel” a sut “mae gweithio gyda phobl sydd ag ADY wedi bod yn brofiad dysgu gwerthfawr i rai o’m haelodau staff; gan eu helpu nhw i osod ffiniau a chynnig cymorth cyffredinol.

Mae cydnabod beth mae pobl yn gallu ei wneud yn hytrach na beth dydyn nhw ddim yn gallu ei wneud yn rhoi mwy o hyder i’n hinterniaid ac i’n gweithwyr hefyd a dwi wrth fy modd ein bod ni’n datblygu diwylliant mwy cynhwysol yn ein gweithleoedd.”

Mae pedwar myfyriwr ar leoliadau yn Ysbyty Treforys yn cynnig eu gwasanaethau bob dydd yn storfeydd y gegin, yn y tîm arlwyo, yn yr ystafell lieiniau, ac mae un myfyriwr yn helpu i baratoi offer llawfeddygol yn yr Uned Sterileiddio a Dadheintio, ac wedi cael adborth da.

Mae busnesau megis Co-op, The Grand Hotel, Café Metro, Ware-house Gym ac Achub Milgwn Cymru yn rhoi eu siarteri cyfrifoldeb corfforaethol cymdeithasol ar waith drwy gael un intern gwaith allan o bum intern arall i’w helpu ar dasgau o ddydd i ddydd fel llenwi silffoedd, cadw tŷ, lletygarwch, gweini bwyd a chynnal safonau gwasanaeth ac ansawdd uchel ar draws pob sector.

Meddai Lyall yn Co-op, “Dwi wir yn mwynhau dod i’r gwaith, dwi wrth fy modd yma yn Co-Op. Dwi’n edrych ymlaen at godi bob bore a gwneud yr un peth eto bob dydd ac mae’r bobl yma yn glên iawn, ac maen nhw mor gefnogol.”

Dywedodd yr Hyfforddwr Gwaith, Ryan Bath, sy’n rhoi cymorth mewn gwaith i’r myfyrwyr, “mae’r rôl mor fuddiol ac mae’n rhagorol gweld myfyrwyr yn symud ymlaen nid yn unig mewn sgiliau cyflogadwyedd ond yn ffynnu hefyd mewn sgiliau bywyd a chymdeithasol hanfodol.”

Dywedodd tiwtor/aseswr y cwrs o Goleg Gŵyr Abertawe, Angela Smith, “Mae’r ymateb a’r gefnogaeth a ddangoswyd i’n myfyrwyr ar ein holl leoliadau gwaith wedi creu cymaint o argraff arna i ac mae wedi bod yn galonogol iawn.

"Mae’n fraint gweld ein myfyrwyr mewn rolau anghyfarwydd a’u gwylio nhw’n blodeuo o wythnos i wythnos. Rydyn ni wedi aros yn hir i fod yn rhan o fenter mor wych dan arweiniad Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gael gwaith am dâl i bobl ag ADY. Mae cyflogwyr lleol wedi dweud wrthon ni y gallai rhaglenni o’r fath nodi dechrau taith ysbrydoledig i gau’r bwlch rhwng bod yn fyfyriwr Coleg a’r naid i waith am dâl.”

Y llynedd, fe wnaeth y cyn-fyfyriwr, James Griffiths, sicrhau cyflogaeth am dâl ar ôl dangos moeseg gwaith aruthrol fel intern yn Ware-house Gym, Abertawe. Heddiw, mae “siŵr o fod yn un o’r gweithwyr gorau yma” dywedodd y goruchwyliwr, Olivia Knill.

Erbyn hyn, mae James hefyd yn helpu i fentora intern gwaith newydd a myfyriwr presennol Callum East, gan arwain y ffordd ar sut i ddarparu ansawdd a rhagoriaeth ar draws y gampfa fodern hon.

Dywedodd Rheolwr Maes Dysgu Coleg Gŵyr Abertawe, Simon Pardoe, ei fod yn teimlo’n optimistaidd am y dyfodol, gan ychwanegu “Wrth i’n myfyrwyr ddechrau eu blwyddyn olaf gyda’r adran SBA, mae’n hynod o gyffrous i’w gweld nhw’n rhoi eu sgiliau cyflogadwywedd ar waith ar ôl eu datblygu nhw dros y tair blynedd diwethaf.”

Os hoffai’ch busnes gael gwybodaeth am y rhaglen interniaeth gwaith yn adran SBA Coleg Gŵyr Abertawe, e-bostiwch eich datganiad o ddiddordeb at y cydlynydd lleoliadau gwaith, Samantha Howells, yn Samantha.howells@gcs.ac.uk .