Cymorth cynhyrchion mislif am ddim i fyfyrwyr


Diweddarwyd 22/05/2020

Mae myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn dal i allu cael gafael ar gynhyrchion mislif am ddim wrth i ni barhau i fod ar gau ar gyfer addysgu wyneb yn wyneb.

Gyda’r ansicrwydd parhaus mewn perthynas â Covid-19, mae’r Coleg yn benderfynol o barhau â’i gymorth i fyfyrwyr trwy gynnig cynhyrchion mislif am ddim i’r rhai sydd eu hangen.

Gall myfyrwyr ddefnyddio’r gwasanaeth hwn drwy ymweld â’r canolfannau cymunedol a’r banciau bwyd canlynol gyda’r amserau wedi’u nodi isod.

Rhaid iddynt sicrhau bod ganddynt eu cerdyn adnabod myfyriwr cyfredol gyda nhw. 

  • Canolfan y Ffenics, 110 Rhodfa Powys, Abertawe, SA1 6PH: ar gael bob dydd 9.30am - 1pm
     
  • Red Café, 646 Heol y Mwmbwls, SA3 4EA: bob dydd Llun 1pm - 3pm
     
  • Neuadd Blwyf Eglwys San Steffan, Stryd Lewis, Abertawe, SA1 8BP: bob dydd Mawrth 2.30pm - 4pm
     
  • 97 Stryd Fawr, Clydach: bob dydd Mawrth 10am - 12pm
     
  • Banc Bwyd Llanelli, 22 Myrtle Terrace, SA15 1LH​: bob dydd Llun 10am - 1pm a bob dydd Gwener 10am - 1pm  
Tags: