Skip to main content

Cynnal Cymru – Y Gymru a Garem

Yn rhan o’n Mis Cŵl Cymru daeth Cynnal Cymru a’r prosiect a noddir gan Lywodraeth Cymru ‘Y Gymru a Garem’ i Goleg Gŵyr Abertawe.

Prosiect yw e i gael pobl ifanc i leisio eu barn am y Gymru a Garem nhw, ac yna bydd y wybodaeth honno yn cael ei bwydo mewn i’r Bil Llesiant Cymunedau’r Dyfodol.

Yn rhan o hyn daeth y comedïwr Daniel Glyn a chyn-fyfyriwr o’r coleg Ignacio Lopez sydd bellach yn gomedïwr llawn-amser, i’r coleg a chynnal gig ‘stand-up’ a thrafodaeth ar Y Gymru a Garem.

Ar gampws Tycoch a Gorseinon bu nifer o fyfyrwyr gwahanol yn gwrando ar y sioe gomedi, ond bu criw o fyfyrwyr penodol yn cymryd rhan yn y drafodaeth ehangach gan gael eu ffilmio yn nodi pa ‘Gymru a Garem’ nhw.

Y myfyrwyr hynny ar gampws Tycoch Aron Davies, Emyr Mansour a Nathan Bowles ar gwrs Cyn-Sylfaenol; a Christina Webb a Ceri Evans ar gwrs Gofal Plant. Yng Ngorseinon bu Ffion Burridge, Gofal Plant, Dylan Jones, Chwaraeon a Gabriella McAllister, Lefel A yn cael eu ffilmio.

Y gobaith yw bydd dilyniant i’r prosiect hwn, a bydd Daniel a Ignacio yn gallu dod 'nôl i’r coleg a mynd a’r drafodaeth hon yn bellach fel bod llais pobl ifanc ein colegau yn cael ei glywed ym Mae Caerdydd.